Dydd San Ffolant: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: hy:Սուրբ Վալենտինի օր
Llewpart (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Dethlir '''Dydd San Ffolant''' (yn [[Saesneg]]: ''Saint Valentine's Day'') ar y 14eg o Chwefror, pan mae cariadon yn danfon cardiau neu anrhegion at ei gilydd. Yn aml, rhoddir blodau neu felysion i gariadon hefyd. Enwyd y diwrnod yn Saesneg a rhai ieithoedd Ewropeaidd eraill ar ôl dau o ferthyron y [[Cristnogaeth|Cristnogion]] cynnar o'r enw Valentine. Mae gwreiddiau'r ŵyl yn hen ond efallai mai cariad corfforol a ddethlid yn yr hen ŵyl, sydd i'w chysylltu â'r [[Lupercalia]] Rhufeinig (15fed Chwefror). Daeth y diwrnod yn gysylltiedig â chariad rhamantaidd yng nghylchoedd [[Geoffrey Chaucer]] yn y [[Canol Oesoedd]], pan ddatblygodd y traddodiad o [[serch llys]]aidd.
 
Ceir o leiaf tri sant cynnar o'r enw Valentin(e), ill tri yn ferthyron. Gosodwyd eu gwyliau i'w dathlu ar y 14eg o Chwefror gan y [[Pab Gelasius I]], tua'r flwyddyn 498. Y tri sant yw: