T. E. Lawrence: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
[[Delwedd:Te lawrence.jpg|bawd|200px|T.E. Lawrence]]
[[Milwr]], [[archaeoleg]]ydd, ac awdur oedd yr [[Is-gyrnol]] '''Thomas Edward Lawrence''', [[Cydymaith Urdd y Baddon|CB]], [[Urdd Gwasanaeth o Fri|DSO]] ([[16 Awst]] [[1888]] - [[19 Mai]] [[1935]]) a wasanaethodd yn [[y Fyddin Brydeinig]]. Mae'n adnabyddus fel '''Lawrence o Arabia''' oherwydd ei ran yng [[Y Gwrthryfel Arabaidd|ngwrthryfel yr Arabiaid]] yn erbyn [[Ymerodraeth yr Otomaniaid]] yn [[y Rhyfel Byd Cyntaf]].
==
Hanai hynafiaid Lawrence o [[Lloegr|Loegr]] ac [[Iwerddon]], ond fe'i ganed mewn tŷ mawr o gerrig llwyd o'r enw ''Gorffwysfa'' (a newidiwyd yn ddiweddarach yn ''Snowdon Lodge'') yn [[Tremadog|Nhremadog]], [[Gwynedd]]. Syr Thomas Robert Tighe Chapman, barwnig Eingl-Wyddelig, oedd ei dad a Sarah Lawrence, Albanes ac athrawes Syr Thomas oedd ei fam. Astudiodd archaeoleg yn [[Coleg yr Iesu, Rhydychen|Ngholeg yr Iesu]], [[Prifysgol Rhydychen|Rhydychen]], lle cafodd radd dosbarth cyntaf. Ar ôl gorffen ei astudiaethau aeth i [[Arabia]] i weithio fel archaeolegydd ac astudio [[Arabeg]].
== Yn Arabia ==
O [[1914]] ymlaen roedd yn gweithio gyda'r ''British Military Intelligence'' yng [[Cairo|Nghairo]], [[yr Aifft]]. Ym [[1916]] cafodd ei yrru i [[Arabia]] i wneud adroddiad am fudiad cenedlaethol yr [[Arabiaid]]. Yn ystod y [[Rhyfel Byd Cyntaf]] roedd e'n rhan o luoedd afreolaidd yr Arabiaid o dan yr [[Emir Feisal]], yn brwydro yn erbyn y [[Twrci]]aid ac yn ceisio argyhoeddi'r Arabiaid i gydweithio â [[Deyrnas Unedig|Phrydain]]. Roedd Lawrence yno pan gipiwyd trefi [[Aqaba]] (de [[Gwlad Iorddonen]]) ym [[1917]] a [[Damascus]] (prifddinas [[Syria]] heddiw) ym [[1918]].
== Blynyddoedd
Ar ôl dychwelyd i Brydain gweithiodd gyda'r lluoedd arfog Prydeinig am ychydig, ac yna canolbwyntiodd ar ysgrifennu.
== Marwolaeth ==
[[Delwedd:Brough_Superior_of_T.E._Lawrence.jpg|bawd|chwith|Beic modur Brough Superior Lawrence yn [[yr Amgueddfa Ryfel Imperialaidd]] yn Llundain.]]
Anafwyd Lawrence mewn damwain ffordd ar ei feic modur [[Brough Superior SS100]] ger ei fwthyn [[Clouds Hill]] yn [[Dorset]], de Lloegr. Oherwydd pant yn y ffordd, ni welodd dau fachgen ar eu beiciau, a phan gwyrodd i'w osgoi nhw fe daflwyd Lawrence o'i feic. Bu farw chwe niwrnod yn ddiweddarach ar 19 Mai 1935. Claddwyd ym Mynwent [[Moreton, Dorset|Moreton]].
==
Plannwyd coeden ym man y damwain ffordd i gofio Lawrence, a saif cofeb garreg gerllaw. Crewyd delw o Lawrence mewn gwisg Arabaidd gan ei ffrind Eric Kennington sydd i'w gweld yn Eglwys Sant Martin yn [[Wareham, Dorset]].
Ar 29 Ionawr 1936 sefydlwyd [[penddelw]], yn wir cast o'r penddelw o Lawrence a wnaed gan Kennington ym 1926, yn [[Eglwys Gadeiriol Sant Pawl]] mewn seremoni gan [[yr Arglwyd Halifax]].
Bellach mae cartref Lawrence yn Dorset, Clouds Hill, yn amgueddfa a gadwyd gan [[yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol]].
=== Ffilm ===▼
Gwnaed [[Lawrence of Arabia (ffilm)|ffilm ar ei fywyd]], ffilm a enillodd saith [[gwobr Oscar]]. Ffilmiwyd sawl golygfa 'anialwch' ym [[Merthyr Mawr]] ger [[Pen-y-bont ar Ogwr]], lle mae'r twyni mwyaf yn Ewrop. Anfarwolwyd Lawrence yn y ffilm gan yr actor [[Peter O'Toole]].
== Llyfryddiaeth ==
=== Llyfrau gan Lawrence ===▼
▲[[Delwedd:Lawr5.jpg|thumb|170px|Poster ar gyfer y ffilm "Lawrence of Arabia" ([[1962]])]]
▲===Llyfrau gan Lawrence===
*''[[The Seven Pillars of Wisdom]]''. (ISBN 0-8488-0562-3)
*''[[Revolt in the Desert]],'' talfyriad o ''Seven Pillars of Wisdom.'' (ISBN 1-56619-275-7)
Llinell 27 ⟶ 36:
*''[[The Letters of T.E. Lawrence]],'' gol. David Garnett. (ISBN 0-88355-856-4)
=== Llyfrau am Lawrence ===
*''The Forest Giant,'' gan Adrien Le Corbeau, cyfieithiad o'r nofel Ffrangeg, 1924.
*''Lawrence of Arabia and His World'', gan Richard Perceval Graves.
*''T. E. Lawrence by His Friends,'' Doubleday Doran (1937)
▲==Ffilm==
{{DEFAULTSORT:Lawrence, T.E.}}
Llinell 40 ⟶ 46:
[[Categori:Llenorion Saesneg]]
[[Categori:Marwolaethau 1935]]
[[Categori:Milwyr]]
[[Categori:Pobl fu farw mewn damweiniau ffordd]]
[[Categori:Pobl o Eifionydd]]
|