Chwarel Dinorwig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) llyfr |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 3:
Roedd '''Chwarel Dinorwig''' yn un o’r ddwy chwarel fwyaf yng [[Cymru|Nghymru]] gyda [[Chwarel y Penrhyn]]. Ar un adeg y ddwy yma oedd y chwareli mwyaf yn y byd.
Mae’r chwarel ar lechweddau [[Elidir Fawr]], yr ochr arall i [[Llyn Padarn|Lyn Padarn]]
i bentref [[Llanberis]]. Fel gyda’r ardaloedd llechi eraill, gweithid y llechi gan bartneriaethau bychain o chwarelwyr yn y [[18fed ganrif]]. Yn 1787 ffurfiwyd un bartneriaeth fawr i weithio’r chwarel, ac yn 1809 cymerodd y meistr tir, [[Thomas Assheton Smith]] o’r [[Faenol]], reolaeth y chwarel i’w ddwylo ei hun. Yn [[1824]] agorwyd [[Rheilffordd Padarn]] fel tramffordd, ac yn [[1843]] trowyd hi yn reilffordd. Roedd yn cludo llechi o’r Gilfach Ddu ger Llanberis i’r [[Y Felinheli|Felineli]], lle adeiladwyd porthladd dan yr enw ‘’Port Dinorwic’’ i allforio’r llechi. Rheilffordd Padarn oedd y gyntaf o reilffyrdd y chwareli i ddefnyddio trenau ager, yn 1843.
|