Andromeda (mytholeg): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
llenyddiaeth
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
[[Duwies]] ym [[mytholeg Roeg]] yw '''Andromeda''', yn ferch i [[Cepheus]] fab [[Belus]], 'brenin' [[Ethiopia]], gan y dduwies [[Cassiopeia]].
 
Roedd Cassiopeia wedi bostio ei bod yn degach na'r [[Nereidau]], 'merched' [[Poseidon]], [[duw]]'r môr. I ddial y sarhad anfonodd Poseidon dilyw ac anghenfil o'r môr i wlad CassopeiaCassiopeia a Cepheus. Proffwydolodd [[oracl Jupiter Ammon]] fod modd cael gwredgwared â'r plagorthrwm hynny drwytrwy offrymu Andromeda i'r anghenfil. Yn erbyn ei ewyllys rhwymodd Cepheus ei ferch i graig ar lan y môr. Yn ffodus daeth yr arwr [[Perseus]] i'r adwy. Mae'n lladd yr anghenfil, a bortreadir gan amlaf fel math o sarff ddu, ac yn achub Andromeda.
 
Ar ôl priodi Perseus mae Andromeda yn ei ddilyn i [[Argos]] ac yn sefydlu llinach brenhinol y [[Perseidiaid]] yn y deyrnas enwog honno. Ar ôl ei marwolaeth cafodd ei gosod ymhlith y [[cytser]]au gan y dduwies [[Athena]].
 
Enwir y cytser [[Andromeda (cytser)|Andromeda]] ar ei hôl, ynghyd â'r [[galaeth]] [[Messier]] 31, sef [[Andromeda (galaeth)|Galaeth Andromeda]] ('Y Troell Mawr yn Andromeda').