Dodona: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Hen ganolfan grefyddol ger [[Ioaninna]] yn nhalaith [[Epiros]] (Epirus), gogledd-orllewin [[Gwlad Groeg]].
 
Ystyrid [[Oracl]] y duw [[Zeus]] yn Dodona fel un o'r rhai hynaf yn Ngwlad Groeg ac roedd yn mwynhau parch mawr ymhlith y Groegwyr. Mae'r bardd Groeg [[Homer]] yn cyfeirio at "Dodona gaeafol" yn [[yr Iliad]] ac yn yr [[Yr Odyssey|Odyssey]]. Dywed y daearyddwr [[Strabo]] fod yr oracl wedi cael ei symud yno o [[Skotoussa]] yn [[Thessaly]] ar orchymyn y duw [[Apollo]], ond yn ôl yr hanesydd [[Herodotus]] sefydlwyd yr oracl ar ôl i golomen o [[Thebes (Yr Aifft)|Thebes]] (yn [[yr Aifft]]) lanio ar hen dderwydden a dyfai yno. Aeth y golomen arall i [[Teml Jupiter Ammon|deml enwog Jupiter Ammon]] yn yr Aifft (ger tref [[gwerddon|werddon]] [[Siwa]] heddiw).
 
Yn ôl Homer eto gwasanaethid yr oracl gan offeiriaid, y ''selloi'', nad olchant eu traed ac a gysgai ar y llawr, ond yn erbyn y cyfnod clasurol gwasanaethai offeiriadesau yno. Roeddent yn daroganu ar ôl disgyn mewn perlewyg, fel y [[Pythones|bythones]] yn [[Delphi]]. Mae Herodotus yn dweud fod yr oracl yn siarad trwy sibrwd dail y dderwydden.