Yr Henfyd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: '''Yr Henfyd''' yw'r enw traddodiadol a ddefnyddir er cyfnod y Dadeni i ddisgrifio'r gwareiddiau a flodeuai o amgylch y Môr Canoldir, o ddechrau'r dinasoedd cyntaf i gwy...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
'''Yr Henfyd''' yw'r enw traddodiadol a ddefnyddir er cyfnod y [[Dadeni]] i ddisgrifio'r gwareiddiau a flodeuai o amgylch y [[Môr Canoldir]], o ddechrau'r [[dinas]]oedd cyntaf i gwymp yr [[Ymerodraeth Rufeinig]]. Mae'n cwmpasu y gwareiddiau cyntaf ym [[Mesopotamia]] a'r [[Hen Aifft]], y [[Ffeniciaid]], [[Groeg yr Henfyd]], [[Carthage]] a nifer o wareiddiau eraill. Mae ei derfynau cronolegol a daearyddol braidd yn amwys ond gellid ei ddiffinio ymhellach fel y byd oedd yn adnabyddus i'r Groegiaid hynafol a'r Rhufeiniaid. Roedd hynny'n cynnwys rhannau helaeth o [[Gorllewin Ewrop|Orllewin Ewrop]], basn y Môr Canoldir]] gan gynnwys de Ewrop, [[Gwlad Groeg]] a'i hynysoedd, [[Asia Leiaf]], [[Iran|Persia]], y [[Dwyrain Canol]], [[Yr Aifft]] a [[Gogledd Affrica]]. Enwau eraill ag ystyr gyffelyb a ddefnyddir yw 'Y Byd Hynafol', 'Yr Henfyd Clasurol' ac 'Y Byd Clasurol' (tueddir i ddefnyddio'r gair [[Clasurol]] am y cyfnod pan oedd Groeg a Rhufain yn eu hanterth).
 
===Gweler hefyd===
*[[Groeg yr Henfyd]]
*[[Mesopotamia]]
*[[Yr Ymerodraeth Rufeinig]]
*[[Yr Hen Aifft]]