Mohammad Reza Pahlavi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

gwleidydd, teyrn (1919-1980)
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cyfieithu cyflwyniad yr erthygl Saesneg
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 02:35, 23 Chwefror 2012

Shah neu frenin olaf Iran oedd Mohammad Rezā Shāh Pahlavi (Perseg: محمدرضاشاه پهلوی, IPA: [mohæmˈmæd reˈzɒː ˈʃɒːhe pæhlæˈviː]; 26 Hydref 1919 – 27 Gorffennaf 1980) a reolodd y wlad o 16 Medi 1941 hyd ei ddymchweliad yn Chwyldro Islamaidd Iran ar 11 Chwefror 1979. Ef oedd yr ail frenin yn y frenhinllin Pahlavi. Ymysg ei deitlau oedd Ei Fawrhydi Imperialaidd, Shahanshah (Brenin Brenhinoedd,[1] Ymerawdwr), Aryamehr (Golau'r Ariaid), a Bozorg Arteshtārān (Pennaeth y Rhyfelwyr,[2] Perseg: بزرگ ارتشتاران).

Mohammad Reza Shah Pahlavi

Daeth Mohammad Reza i rym yn ystod yr Ail Ryfel Byd wedi i oresgyniad Iran gan Brydain a'r Undeb Sofietaidd orfodi ei dad, Reza Shah, i ymddiorseddi. Yn ystod ei deyrnasiad, cafodd diwydiant olew Iran ei wladoli dan y Prif Weinidog Mohammad Mosaddegh, a nodwyd 2,500 mlynedd ers sefydlu Ymerodraeth Persia gan Cyrus Fawr a phen-blwydd y frenhiniaeth. Llwyddodd diwygiadau economaidd a chymdeithasol y Chwyldro Gwyn, a fwriadwyd gan y Shah i droi Iran yn bŵer mawr ar y lwyfan ryngwladol, i foderneiddio'r wlad trwy wladoli nifer o adnoddau naturiol a rhoi'r bleidlais i fenywod.

Mwslim seciwlar oedd Mohammed Reza, ac yn raddol collodd cefnogaeth y glerigiaeth Shi'a yn Iran, yn enwedig oherwydd ei bolisïau o foderneiddio a seciwlareiddio, y gwrthdaro rhyngddo a dosbarth traddodiadol y bazaari, ac am gydnabod Israel. Bu ffactorau eraill yn ychwanegu i'r tensiynau, megis coup d'état 1953, gwaharddiad ar y Blaid Tudeh gomiwnyddol, arestio a charcharu nifer o garcharorion gwleidyddol, a gormes gwleidyddol gan yr asiantaeth cudd-wybodaeth SAVAK. Erbyn 1979, gorfodwyd y Shah i adael y wlad yn sgîl chwyldro, ac yn fuan diddymwyd y frenhiniaeth yn ffurfiol a datganwyd Iran yn weriniaeth Islamaidd. Bu farw'n alltud yn yr Aifft wedi i'r Arlywydd Anwar Sadat roi lloches iddo.

Ers dechrau'r 1990au, mae enw'r Shah wed ei adfer rhywfaint, ac mae nifer o Iraniaid yn edrych yn ôl ar ei deyrnasiad fel oes fwy llewyrchus i'r wlad[3][4] gyda llywodraeth lai gormesol.[5] Yn ôl y newyddiadurwr Afshin Molavi, mae hyd yn oed pobl dlawd ac annysgedig, cefnogwyr traddodiadol y Chwyldro Islamaidd, i'w clywed yn gwneud sylwadau megis "bendith Duw ar enaid y Shah, roedd yr economi yn well y pryd hwnnw", a dywed Molavi "mae llyfrau am y Shah (hyd yn oed y rhai a gaiff eu sensro) yn gwerthu'n gyflym".[6]

Cyfeiriadau

  1. D. N. MacKenzie. A Concise Pahlavi Dictionary. Routledge Curzon, 2005.
  2. M. Mo'in. An Intermediate Persian Dictionary. Six Volumes. Amir Kabir Publications, 1992.
  3. Molavi, Afshin, The Soul of Iran, Norton (2005), t. 74
  4. Adroddiad Iran, 2 Chwefror 2004
  5. Sciolino, Elaine, Persian Mirrors, Touchstone, (2000), tt. 239, 244
  6. Molavi, Afshin, The Soul of Iran, Norton (2005), tt. 74, 10