Owain ap Hywel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 7:
Bu farw Rhodri yn [[953]] ac Edwin yn [[954]], gan adael Owain yn frenin Deheubarth. Ni cheisiodd ymosod ar Wynedd eto, ond yn hytrach trodd ef a'i fab Einon tua'r dwyrain i ymosod ar deyrnas [[Morgannwg]] yn [[960]], [[970]] a [[977]]. Erbyn hyn yr oedd Owain yn heneiddio, ac mae'n ymddangos i Einon ddod yn gyfrifol am weinyddu'r deyrnas ar ran ei dad. Ar gyrch arall tua'r dwyrain, lladdwyd Einon gan uchelwyr [[Teyrnas Gwent|Gwent]] yn [[984]].
 
Wedi marwolaeth Einon's death, daeth ail fab Owain, [[Maredudd ab Owain|Maredudd]], i arwain byddin Deheubarth yn ei le, ac yn [[986]] llwyddodd i gipio gorsedd Gwynedd, gan yrru mab Ieuaf, [[Cadwallon ab Ieuaf]], ar ffo. Y flwyddyn wedyn bu farw Owain a daeth Maredudd yn frenin Deheubarth a Gwynedd.
 
Dywedir fod gan Owain ddiddordeb mewn ysgolheictod, a bod yr [[Annales Cambriae]] wedi eu gasglu at ei gilydd ar ei gais ef.