Cadell ap Gruffudd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
bocs
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Roedd '''Cadell ap Gruffydd''' (bu farw [[1175]]) yn dywysog [[Deheubarth]] yn ne-orllewin [[Cymru]].
 
Cadell oedd ail fab [[Gruffydd ap Rhys]], oedd yn arglwydd ar ran o deyrnas Deheubarth gyda'r gweddill yn nwylo amryw o arglwyddi NormanaidedNormanaidd. Pan fu farw Gruffydd yn [[1137]] daeth ei fab hynaf, brawd Cadell, [[Anarawd ap Gruffudd]], yn dywysog Deheubarth. Ceir y sôn cyntaf am Cadell y flwyddyn wedyn, pan gynorthwyodd ei frawd Anarawd ac [[Owain Gwynedd]], tywysog [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] a'i frawd [[Cadwaladr ap Gruffudd]] mewn ynosodiad ar [[Castell Aberteifi|Gastell Aberteifi]].
 
Yn [[1143]] llofruddiwyd Anarawd gan wŷr Cadwaladr, a daeth Cadell yn dywysog Deheubarth. Aeth ymlaen a'r gwaith yr oedd Anarawd wedi ei ddechrau, i ad-ennill hen deyrnas ei daid, [[Rhys ap Tewdwr]]. Yn [[1146]] cipiodd gestyll [[Caerfyrddin]] a [[Llansteffan]], a'r flwyddyn wedyn enillodd fuddugoliaeth dros Walter Fitzwiz. Yn [[1150]] trodd tua'r gogledd, a hawliodd yn ôl dde [[Ceredigion]], oedd yn cael ei ddal i Wynedd gan [[Hywel ab Owain Gwynedd]].