Y Gwrthryfel Arabaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
cyd-destun ehangach
Llinell 18:
| anaf_coll-2 =
}}
Gwrthryfel a gychwynwyd gan [[Hussein bin Ali, Sharif Mecca|y Sharif Hussein bin Ali]] oedd '''y Gwrthryfel Arabaidd''' (1916–1918) ([[Arabeg]]: ''الثورة العربية'' ''Al-Thawra al-`Arabiyya''; [[Tyrceg]]: ''Arap İsyanı'') gyda'r nod o ennill annibyniaeth ar [[Ymerodraeth yr Otomaniaid]] a chreu un wladwriaeth [[Arab]]aidd unedig i ymestyn o [[Aleppo]] yn [[Syria]] i [[Aden]] yn [[Yemen]]. Roedd yn rhan o'r [[Y Rhyfel Byd Cyntaf yn y Dwyrain Canol|Rhyfel Byd Cyntaf yn y Dwyrain Canol]].
 
Ym Mehefin 1917 cipiodd yr Arabiaid borth [[Aqaba]] ar [[y Môr Coch]], a symudant yn raddol i'r gogledd. Targedodd [[lluoedd afreolaidd]] [[Rheilffordd Hejaz|Reilffordd Hejaz]] gan dorri cyflenwadau i'r Otomaniaid/Tyrciaid ym [[Medina]], ac roedd hyn o gymorth i [[Ymgyrch Sinai a Phalesteina|ymgyrch y Cynghreiriaid yn Sinai a Phalesteina]]. Cwympodd [[Damascus]] ym mis Hydref 1918.
 
Creda'r Arabiaid bod ganddynt air Prydain bydd gwladwriaeth Arabaidd unedig yn cael ei ffurfio ar ôl cwymp Ymerodraeth yr Otomaniaid yn ôl [[Llythyron McMahon–Hussein]], ond wedi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf cafodd eu dadrithio gan [[Cytundeb Sykes–Picot|Gytundeb Sykes–Picot]], oedd yn rhannu'r Dwyrain Canol rhwng Prydain a Ffrainc, a [[Datganiad Balfour]], oedd yn addo gwlad i'r Iddewon ym [[Palesteina|Mhalesteina]].