T. E. Lawrence yn y Gwrthryfel Arabaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B dolen
Llinell 18:
 
=== Cwymp Damascus ===
Wedi buddugoliaeth y Cynghreiriaid ym [[Brwydr Megiddo (1918)|Mrwydr Megiddo]], symudodd [[Ymgyrch Sinai a Phalesteina]] yn agosach at [[Damascus]]. Ar 30 Medi daeth reolaeth y Tyrciaid dros y ddinas i ben, a threchodd Prydain y fyddin Dyrcaidd olaf ar y ffordd i Damascus. Codwyd y faner Arabaidd dros neuadd y dref a phenododd y llywodraethwr Tyrcaidd, [[Djemal Pasha]], uchelwr Arabaidd lleol o'r enw Mohammed Said i'w olynu.
Cwympodd Damascus ar 1 Hydref.
 
Y 3edd Frigâd Geffylod Ysgafn Awstraliaidd oedd lluoedd cyntaf y Cynghreiriaid i mewn i'r ddinas ar doriad gwawr 1 Hydref 1918. Awr yn hwyrach dilynodd rhagor o farchfilwyr Awstraliaidd ac ildiodd y garsiwn Dyrcaidd. Lawrence a'r Arabiaid oedd y drydedd fintai yn Damascus y bore hwnnw. Gorchmynnodd hwy i gyngor Said wneud lle am lywodraethwr ffyddlon i'r Arabiaid, ond collodd y weinyddiaeth newydd hon reolaeth ar y ddinas o fewn ychydig o ddiwrnodau o ganlyniad i ddiffyg cefnogaeth leol.
 
== Wedi diwedd y Gwrthryfel ==