Crynoddisg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ychwanegu
dolen ar gyfer y dyfodol
Llinell 1:
[[Delwedd:CD autolev crop.jpg|ewin bawd|200px|Crynoddisg]]
 
[[Disg optegol]] a ddefnyddir i storio [[data digidol]] yw '''crynoddisg''', '''CD-ROM''' neu '''CD'''. Dechreuodd datblygiad y cyfrwng gan y cwmniau [[electroneg]] [[Philips]] a [[Sony]] yn [[1979]]. Bu'n dair blynedd cyn fod y crynoddisg yn cael ei ryddhau yn [[1982]]. Yn wreiddiol, fe'i cynlluniwyd fel cyfrwng ar gyfer storio [[cerddoriaeth digidol]] yn unig, oherwydd fod golwg y disgiau yn debyg i [[recordiau feinyl]], ond yna addaswyd y dechnoleg i'w ddefnyddio fel [[dyfais storio gwybodaeth|dyfais storio data]] gwahanol megis delweddau, testun a rhaglenni. Felly, rhyddhawyd y CD-ROM ym mis Mehefin 1985, a fyddai'n dod yn brif gyfrwng ar gyfer [[meddalwedd cyfrifiadurol]] am dros ddegawd rhwng 1993 a 2005, pan ddaeth y we fyd-eang yn gryfach cyfrwng.
 
Ystyr "CD" ydy talfyriad o "Compact Disg" (Cryno Ddisg); ac ystyr "ROM" ydy Read Only Memory, gan nad oedd hi'n bosibl i'r defnyddiwr losgi gwybodaeth ar y ddisg fwy nag unwaith sef ''write-once audio and data storage'' (CD-R) ac yna: ''rewritable media'' (CD-RW), ''Video Compact Discs'' (VCD), ''Super Video Compact Discs'' (SVCD), ''PhotoCD, PictureCD, CD-i'', ac ''Enhanced CD''. Gwelodd yr ''Audio CD'' a chwaraewyr ''audio CD'' olau dydd yn gyntaf yn 1982.