Sefydliad Materion Cymreig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
gwybodlen
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
Sefydliad annibynnol yng Nghymru, yn seiliedig ar aelodaeth a heb fod ynghlwm wrth unrhyw grŵp gwleidyddol neu economaidd, sy'n ceisio ysgogi gwelliannau ym mywyd [[Cymru]] yw'r '''Sefydliad Materion Cymreig''' ([[Saesneg]]: ''The Institute of Welsh Affairs''; ''IWA''). Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar [[gwleidyddiaeth Cymru|wleidyddiaeth]], [[Diwylliant Cymru|diwylliant]] ac [[Economi Cymru|economi]] Cymru, a thechnoleg a gwyddoniaeth yn y wlad, gyda'r amcan o ddatblygu cynigion i "wella a newyddu polisi" a hyrwyddo meddwl newydd ar faterion Cymreig. Mae'r sefydliad yn cyhoeddi sawl adroddiad ar ei ymchwil, yn cyhoeddi'r bwletin ''agenda'', ac yn trefnu seminarau a chynhadleoedd i annog trafodaeth ar y pynciau a godir.
 
Cafodd ei sefydlu yn 1985 gan [[Geraint Talfan Davies]], mab y llenor [[Aneirin Talfan Davies]]. Yn 1996, cyflogwyd y cyfarwyddwr llawn amser cyntaf, [[John Osmond]]. Yn Ebrill 2013 fe'i olynwyd gan gyfarwyddwr newydd, [[Lee Waters]].<ref>{{dyf gwe|url=http://www.iwa.org.uk/cy/hanes|teitl=Sefydliad Materion Cymreig - Hanes|cyhoeddwr=Sefydliad Materion Cymreig|dyddiadcyrchiad=29 Mai 2016}}</ref> Etholwyd Waters fel aelod o [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru|Gynulliad Cenedlaethol Cymru]] yn Mai 2016 a sefodd lawr fel cyfarwyddwyr. Yng NghorffennafNgorffennaf 2016 penodwyd Auriol Miller fel cyfarwyddwyr newydd i ddechrau ei gwaith yn hydref 2016.<ref>{{dyf newyddion|url=http://www.walesonline.co.uk/business/appointments/institute-welsh-affairs-appoints-auriol-11678825|teitl= The Institute of Welsh Affairs appoints Auriol Miller as its new director |cyhoeddwr=WalesOnline|awdur=Sion Barry|dyddiad=29 Gorffennaf 2016|dyddiadcyrchu=19 Gorffennaf 2016}}</ref>
 
Mae gan y SMC tua 1,200 aelod unigol a 150 aelod corfforaethol, a 100 Cymrawd. Mae'n gwmni ac yn elusen gofrestredig. Mae'r aelodau corfforaethol yn cynnwys [[Cyngor Celfyddydau Cymru]], [[BBC Cymru]], [[Nwy Prydain]], [[Cyngor Dinas Caerdydd]], Dur Corus, Deloitte, Eversheds, Banc Julian Hodge, Banc yr [[HSBC]], [[ITV Wales]], [[Ymddiriedolaeth Elusennol Joseph Rowntree]], [[S4C]], [[Dŵr Cymru]] a [[Prifysgol Cymru]].