Hanes Gogledd Iwerddon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: no:Nord-Irlands historie
B dolen
Llinell 10:
Yn y 1960au, ceisiodd y Prif Weinidog [[Terence O'Neill]] newid rhywfaint ar y system, ond gwrthwynebid hyn gan lawer o aelodau o’i blaid ei hun, megis [[Ian Paisley]]. Dechreuwyd y Mudiad Hawliau Sifil gan y cenedlaetholwyr, dan arweiniad [[Austin Currie]], [[John Hume]] ac eraill. Yn [[1968]] bu llawer o ymladd rhwng protestwyr a’r heddlu, a gwaethygodd hyn yn [[1969]] gyda therfysg yn [[Derry]] a [[Belffast]]. Gyrrodd Gweinidog Cartref y Deyrnas Unedig, [[James Callaghan]], y fyddin Brydeinig i ddelio a’r helyntion ar [[14 Awst]] [[1969]].
 
Datblygodd cyfnod o tua 30 mlynedd o ymladd rhwng y Fyddin Brydeinig, yr [[Byddin Weriniaethol Dros Dro Iwerddon|IRA]] a nifer o grwpiau Unoliaethol megis yr [[UVF]], a elwir yn [[yr Helyntion]]. Ar [[9 Awst]] [[1971]], cymerwyd aelodau o’r IRA i’r carchar heb eu rhoi ar brawf. Ar [[30 Ionawr]] [[1972]], gwnaed y sefyllfa’n waeth gan ''[[Bloody Sunday Derry 1972|Bloody Sunday]]'', pan saethwyd 13 o brotestwyr yn farw gan filwyr Prydeinig yn Derry, gydag un arall yn marw o'i glwyfau yn ddiweddarach. Yn [[1973]] rhoddodd llywodraeth y Deyrnas Unedig y dalaith dan ei llywodraeth uniongyrchol ei hun, gan gau y senedd yn Stormont.
 
Yn nechrau’r 1990au bu trafodaethau rhwng [[Gerry Adams]], arweinydd [[Sinn Féin]], a [[John Hume]], arweinydd y [[Social Democratic and Labour Party]] (SDLP). Daeth arweinydd newydd yr UUP, [[David Trimble]], a’i blaid ef i mewn i drafodaethau rhwng y pleidiau, ac ar [[10 Ebrill]] [[1998]],arwyddwyd [[Cytundeb Belffast]] rhwng wyth plaid, ond heb gynnwys plaid Ian Paisley, y [[Democratic Unionist Party]] (DUP). Cynhaliwyd refferendwm, lle cefnogdd yr etholaeth y cytundeb, ac yna etholiad i’r senedd yn Stormont. Daeth David Trimble yn Brif Weinidog, gyda dirprwy arweinydd yr SDLP, [[Seamus Mallon]], yn ddirprwy iddo.