Parc Cenedlaethol Eryri: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Titus Gold (sgwrs | cyfraniadau)
ychwanegu nodyn
enw
Llinell 9:
Sefydlwyd '''Parc Cenedlaethol Eryri''' ym [[1951]] fel y trydydd [[parciau cenedlaethol Cymru|parc cenedlaethol yng Nghymru]] a Lloegr. Mae'n un o dri pharc cenedlaethol yng Nghymru (gweler hefyd [[Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog|Bannau Brycheiniog]] a [[Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro|Phenfro]]). Mae ffiniau'r parc yn cynnwys tua 214,159 hectar (840 milltir sgwâr), ardal llawer ehangach na'r ardal a adwaenid fel [[Eryri]] yn hanesyddol.
 
Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn ymestyn dros 2,171 [[cilometr]] sgwâr dros ardaloedd [[Gwynedd]] a [[Conwy (sir)|Chonwy,]], gydag oddeutu 25,000 o drigolion yn byw y tu mewn i’w ffiniau. Yng nghyfrifiad 2011, roedd 59% o’r boblogaeth yn siarad [[Cymraeg]]. Gyda miliynau o ymwelwyr yn dod pob blwyddyn, dyma'r trydydd parc cenedlaethol mwyaf poblogaidd drwy Gymru a Lloegr.
 
Yn Nhachwedd 2022, cyhoeddwyd y byddai'r awdurdod yn defnyddio ei enw Cymraeg 'Eryri' o hyn ymlaen yn hytrach na Snowdonia.<ref>{{Cite web|title=Parc Cenedlaethol Eryri am ddefnyddio ‘Eryri’ a’r ‘Wyddfa’ wrth gyfathrebu’n Saesneg|url=https://golwg.360.cymru/newyddion/iaith/2109688-parc-cenedlaethol-eryri-ddefnyddio-eryri-wyddfa|website=Golwg360|date=2022-11-16|access-date=2023-04-17|language=cy}}</ref>
 
==Rheolaeth==