Meddwl.org: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Meddwl (sgwrs | cyfraniadau)
B Diweddaru dolen
Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.9.3
 
Llinell 27:
Yn ôl meddwl.org mae prinder gwasanaethau a deunyddiau iechyd meddwl yn Gymraeg yn broblem enfawr. Nid yw enwau Cymraeg llawer o'r cyflyrau yn gyffredin hyd yn oed, gobeithiant y bydd y wefan yn ffordd o fynd i'r afael â'r broblem hon.
 
Mae [https://meddwl.org/profiadau/sophieannhughes/ ymchwil] a [https://meddwl.org/profiadau/gofalcymraeg/ phrofiadau personol] {{Webarchive|url=https://web.archive.org/web/20211027032518/https://meddwl.org/profiadau/gofalcymraeg/ |date=2021-10-27 }} wedi dangos bod mynegi a thrafod materion sensitif, emosiynol a chymhleth, fel materion iechyd meddwl, yn brofiad llawer haws, yn fwy naturiol ac yn llai rhwystredig wrth allu gwneud hynny yn y famiaith. I lawer o siaradwyr Cymraeg, gall gwneud hynny yn Saesneg, waeth beth yw eu rhuglder, fod yn eithriadol o anodd. Mae cleifion iechyd meddwl yn aml yn cael mwy o fudd o wasanaethau a ddarperir drwy gyfrwng eu hiaith gyntaf gan nad oes unrhyw rwystrau ieithyddol i'w mynegiant, i'w hyder, i'w gallu i ddatgelu nac i'w gallu i adeiladu perthynas gyda'r ymarferydd.
 
Cred meddwl.org ei bod yn bwysig fod pobl sy'n byw gyda salwch neu gyflwr iechyd meddwl yn cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl yn yr iaith sydd fwyaf cyfforddus iddyn nhw, yn enwedig gan fod siarad a chyfathrebu yn rhan mor ganolog o'r driniaeth ac o'r broses o wella. Y gobaith yn yr hirdymor yw helpu i sicrhau bod elusennau a mudiadau iechyd meddwl yn darparu mwy o ddeunyddiau iechyd meddwl yn Gymraeg.