Grŵp o ynysoedd[[ynys]]oedd yng [[Gwlad Groeg|Ngwlad Groeg]] yw'r '''Cyclades''' neu '''Ynysoedd Cyclades'''. Fe'i lleolir i'r de-ddwyrain o [[Attica]] ar dir mawr Groeg ac ynys [[Euboea]] ym [[Môr Aegea]] yn nwyrain y [[Môr Canoldir]]. Mae nhw hanner ffordd fwy neu lai rhwng tir mawr Gwlad Groeg, ynys [[Crete]] ac arfordir de-orllewin [[Twrci]]. Mae'r ynysoedd yn ffurfio cylch bron o gwmpas ynys [[Delos]]. Ceir tua 30 o ynysoedd o faint amrywiol yn y grŵp (heb gyfrif y mân ynysoedd niferus). Y ganolfan weinyddol yw [[Ermoupolis]] ar ynys [[Siros]]. Mae rhai o ynysoedd deheuol y [[Sporades]] yn cael eu cyfrif yn rhan o ''nome'' (uned weinyddol) y Cyclades hefyd. Mae tua 100,000 o bobl yn byw yn y ''nome''.