Cudd-wybodaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: be:Разведка
Llinell 21:
 
=== Gweithredu cudd ===
{{prif|Gweithredu cudd}}
Y gallu i roi pwysau ar lywodraeth dramor heb i'r llywodraeth honno wybod ffynhonnell y pwysau yw gweithredu cudd.<ref name=D281/><ref>Clark (2007), tt. 92&ndash;3.</ref> Mae gweithredu cudd yn cynnwys pedair is-ddisgyblaeth: [[propaganda]], [[gwleidyddiaeth|gweithredu gwleidyddol]], [[parafilwriaeth|gweithredu parafilwrol]], a [[rhyfela gwybodaeth]].<ref name=D281>Daugherty (2009), t. 281.</ref> Mae gweithredu cudd yn anodd ei ddiffinio o fewn maes cudd-wybodaeth, a chwestiynir os yw'n rhan o ddisgyblaeth cudd-wybodaeth o gwbl gan ei fod yn ymwneud â gweithredu polisi tramor yn hytrach na chasglu a dadansoddi gwybodaeth y seilir polisi tramor arni.<ref>Shulsky a Schmitt (2002), t. 75.</ref> Er hyn, cysylltir gweithredu cudd â chudd-wybodaeth gan fod asiantaethau cudd-wybodaeth gan amlaf yn ei weithredu.<ref>Clark (2007), t. 1.</ref>