Oxford Dictionary of National Biography: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
B sillafu
gwybodlen
 
Llinell 1:
{{teitl italig}}
{{Pethau| fetchwikidata = ALL}}
Bywgraffiadur a gyhoeddir gan [[Gwasg Prifysgol Rhydychen|Wasg Prifysgol Rhydychen]] yw'r '''''Oxford Dictionary of National Biography'''''. Mae'n cynnwys bywgraffiadau o bobl o [[Ynysoedd Prydain]], o'r amseroedd cynharaf hyd at y gorffennol diweddar. Mae'n olynydd i'r '''''Dictionary of National Biography''''', a gyhoeddwyd mewn 63 cyfrol rhwng 1885 a 1900. Syr Leslie Stephen, tad [[Virginia Woolf]], oedd golygydd cyntaf y ''DNB''. Cyhoeddwyd atodiadau i'r bywgraffiadur yn ysbeidiol rhwng 1901 a 1996 er mwyn cynnwys marwolaethau diweddar, ond ni wnaed ymdrech i ddiwygio'r gwaith cyfan, a oedd yn cynnwys nifer o destunau Fictoraidd, nes 1992. Yna fe gychwynnodd gwaith ar fersiwn newydd â'r golygydd Colin Matthew wrth y llyw.<ref>{{dyf gwe|iaith=en|url=http://global.oup.com/oxforddnb/info/print/intro/intro1/|teitl=Introduction; History of the DNB; Plans for a new DNB|cyhoeddwr=Gwasg Prifysgol Rhydychen|dyddiadcyrchiad=17 Tachwedd 2014}}</ref> Cyhoeddwyd hyn, mewn print ac ar lein, ar 23 Medi 2004.