William Wallace: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Mae ansicrwydd lle ganed Wallace; yn ôl y traddodiad yn [[Elderslie]], gerllaw [[Paisley]]. Ymddengys ei fod o deulu o'r boneddigion llai; yn ôl traddodiad roedd yn fab i Sir Malcolm Wallace o Elderslie, ond enwir ei dad fel Alan Wallace hefyd. Awgrymwyd fod y cyfenw "Wallace" yn dynodi fod y teulu yn ddisgynyddion aelodau o un o deyrnasoedd Brythoneg [[Yr Hen Ogledd]].
 
Pan fu farw [[Alexander III, brenin yr Alban]] yn 1286, dechreuodd cyfnod o ansicrwydd yn yr Alban. Ei aeres oedd ei wyres Margaret, nad oedd ond pedair oed ac yn byw yn [[Norwy]]. Bu Margaret farw yn 1290 ar ei ffordd i'r Alban o Norwy. Roedd nifer o bobl yn hawlio'r orsedd ar farwolaeth Margaret, a gofynnwyd i Edward I o Loegr farnu rhyngddynt. Dewisodd ef [[John Balliol]], a choronwyd ef yn frenin. Fodd bynnag manteisiodd EdweardEdward ar y cyfle i ymosod ar yr Alban. Erbyn Gorffennaf 1296 yr oedd wedi goresgyn y wlad, a gorfododd Balliol i ildio'r goron.
 
Rywryd tua'r adeg yma, dechreuodd Wallace ei ymgyrchoedd. Lladdodd ef a'i deulu [[William Heselrig]], Siryf Seisnig Lanark, ym mis Mai [[1297]], ac ennillodd nifer o fuddugoliaethau yn ystod y flwyddyn. Ar [[11 Medi]], [[1297]], enillodd Wallace fuddugoliaeth dros y Saeson ym [[Brwydr Pont Stirling|Mrwydr Pont Stirling]], pan geisiodd y cadfridog Seisnig, Iarll Surrey, groesi pont gul. Ymosododd Wallace pan oedd y fyddin Seisnig ar hanner croesi, a bu lladdfa fawr.