Mesopotamia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Vagobot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: xmf:შქაწყარმალონა
Breckenheimer (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
[[Delwedd:Standard_of_Ur_-_War.jpg|250px|bawd|Rhan o Faner [[Ur]]: gorymdaith Rhyfel]]
:''Gweler hefyd: [[Mesopotamia (gwahaniaethu)]].''
Y rhanbarth hanesyddol sy'n gorwedd rhwng [[Afon Tigris]] ac [[Afon Ewffrates]] yng ngogledd-ddwyrain y [[Dwyrain Canol]] yw '''Mesopotamia''' ([[Groeg]]: μέσοςποταμόςμέσοποταμός 'Rhwng yr Afonydd'). Mae cnewyllyn hanesyddol y diriogaeth yn gyfateb yn fras i ganolbarth [[Irac]] heddiw, ond defnyddir yr enw hefyd (weithiau fel 'Mesopotamia Fawr') i ddynodi ardal sy'n cynnwys Irac, dwyrain [[Syria]], rhannau o dde-ddwyrain [[Twrci]] a de-orllewin [[Iran]]. Mae'n ffurfio pen dwyreiniol y [[Cryman Ffrwythlon]] ac yn cael ei alw'n grud gwareiddiad. Mae'r tir rhwng y ddwy afon ac ar eu glannau'n hynod o ffrwythlon am ei fod yn dir [[llifwaddod]]ol; bob tro mae'r afonydd hynny'n gorlifo gedwir llifwaddod ar eu hôl.
 
Y bobl cyntaf i fanteisio ar hyn ar raddau sylweddol oedd y [[Swmer]]iaid, a ymseyflodd ym Mesopotamia tua [[4,000 CC]] i drin y tir ffrwythlon a thyfu cnydau. Sefydlasant un o'r gwareiddiadau cyntaf yn hanes y byd a flodeuai yn ninas-wladwriaethau [[Ur]], [[Kish]], [[Uruk]] a safleoedd eraill. Yna daeth ymsefydlwyr eraill i'r ardal a daeth ymerodraeth [[Akkad]], a sefydlwyd gan [[Sargon]] yn Kish, i ddominyddu'r wlad. Daeth dinas [[Babilon]] yn brifddinas Mesopotamia dan y brenin [[Hammurabi]], enwog am [[Cyfraith Hammurabi|y cyfreithiau manwl]] a luniwyd yn ystod ei deyrnasiad (ar sail cyfreithiau hŷn). Ar ôl Hammurabi cafodd y rhanbarth ei meddianu gan oresgynwyr newydd - y [[Casiaid]], yr [[Asyriaid]] a'r [[Persiaid]] - ac ildiodd Mesopotamia le i'r [[Aifft]] Hynafol fel blaenredegydd gwareiddiad yn yr [[Henfyd]]. Yn ddiweddarach daeth dan reolaeth [[Alecsander Mawr]] a'i olynwyr, yr [[Ymerodraeth Rufeinig]] a'r Persiaid cyn cael ei chwncweru gan y [[Islam|Mwslemiaid]] yn y [[7fed ganrif]].