Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Crug crwn"

Ychwanegwyd 119 beit ,  9 o flynyddoedd yn ôl
carnedd gron yn wahanol
B (r2.7.1) (robot yn ychwanegu: no:Rundhaug (gravhaug))
(carnedd gron yn wahanol)
[[Delwedd:Copa Foel Gyw Mehefin 2010.jpg|bawd|Crug ar gopa [[Moel Gyw]] ([[Bryniau Clwyd]].]]
Pentwr o bridd wedi'i osod gan bobl [[Oes yr Efydd]] fel rhan o'u seremoniau neu i gladdu'r meirw ydy '''crug crwn''' (enw gwrywaidd; Saesneg: ''round barrow''). "Bryncyn" neu "bentwr" ydy prif ystyron y gair [[Cymraeg]] 'crug', sy'n elfen bur gyffredin mewn enwau lleoedd yng Nghymru. ''Cruc'' ydy'r gair yn yr [[Cernyweg|Hen Gernyweg]] a'r [[Llydaweg|Hen Lydaweg]] a ''cruach'' yn yr [[Hen Wyddeleg]]. Mae'r gair i'w gael o fewn rhai ffurfiau [[Lladin]] ar hen enwau lleoedd [[Brythoneg]] megis ''Pennocrucium'', sef Penkridge heddiw ac fe'i benthycir yn y Saesneg fel "''crick''" fel yn y gair "''Crick''-howell". Y lluosog ydy: '''crugiau crwn''' neu '''crugiau crynion'''.
 
Mae'r [[carnedd gron|garnedd gron]] yn wahanol i grug crwn. Cerrig yn unig yw carnedd - treuliwyd y pridd gan amser.
 
Pan fo siambr neu gell o fewn y crug i ddal y corff yna gelwir y crug yn [[siambr gladdu]]. Pan fo'r glaw a'r gwynt wedi'i herydu yna caiff ei disgrifio fel [[carnedd]]. Yng [[Pedair Cainc y Mabinogi|Nghainc Gyntaf y Mabinogi]] (testun ''[[Llyfr Gwyn Rhydderch]]'', 14eg ganrif) ceir hanes [[Pwyll]] yn gweld [[Rhiannon]]: "Ac yna... yn eistedd ar ben crug, y wreic teccaf or a welsei eiroet." <ref>''[[Geiriadur Prifysgol Cymru]]'', Cyfrol 1, tudalen 613.</ref>