Bochdew Syriaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: et:Kuldhamster
statws
Llinell 2:
| enw = Bochdew Syriaidd
| statws = VU
| system_statws = IUCN3.1
| delwedd = Goldhamster terrarium.jpg
| maint_delwedd = 200px
Llinell 22 ⟶ 23:
Darganfuwyd y bochdew Syriaidd cyntaf yn yr oes fodern ym 1839 yn [[Syria]] gan y sŵolegydd [[George Robert Waterhouse]] o Brydain. Arddangosir ffwr y sbesimen oedrannus, benywol a ddarganfu Waterhouse yn yr [[Amgueddfa Brydeinig]]. Ni rhoddwyd unrhyw sylw i astudiaeth y rhywogaeth am ganrif arall.<ref>{{eicon en}} [http://www.helium.com/items/1076681-what-kind-of-hamster-is-right-for-you-what-is-unique-about-the-syrian-hamster Hamster breeds: The Syrian hamster]</ref>
 
Yn hwyr y 1920au darganfuodd yr Athro [[Israel Aharoni]], ysgolhaig Iddewig o [[Palesteina|Balesteina]] oedd yn arbenigo mewn hen destunau [[Hebraeg]] ac [[Aramaeg]], ddarn mewn un o'r testunau hynafol yr oedd yn astudio a dywed unwaith "yn ardal Chaleb bu fath arbennig o lygoden Syriaidd, a ddyfodwyd i [[Assyria]] a gwlad yr [[Hethiaid]]", ac oedd yn disgrifio natur ddof y creaduriaid a'r ffordd bu plant yn hen Assyria ac [[Anatolia]] yn eu cadw mewn cewyll. Er roedd y testun yn ei wneud yn glir nad llygod arferol oedd y creaduriaid, nid oedd Aharoni yn ymwybodol o unrhyw anifail cyfoes oedd yn bodloni'r disgrifiad. Ym 1930 fe aeth Aharoni i ddinas [[Aleppo]], safle Chaleb, yn [[Syria]] i geisio chwilio am yr anifail. Ni ddaeth ar draws unrhywun oedd yn ymwybodol o anifail o'r fath, ond yn y cefn gwlad fe ddarganfuodd tri ar ddeg o fochdewion coch-frown eu lliw, oedd yn llai o faint nag unrhyw rywogaeth hysbys, mewn tyrchfa ddaear. Am amser credai mae'r rhain oedd yr unig fochdewion Syriaidd oedd ar ôl yn y byd, gan nad oedd ymchwil maes pellach wedi darganfod unrhyw aelodau eraill o'r rhywogaeth yn y gwyllt.<ref name="AO">May & Marten, tud. 81</ref> Llwyddodd ddwy alldaith ym 1997 a 1999 i ddarganfod tri bochdew Syriaidd ar ddeg, chwe benyw a saith gwryw, ger Aleppo, nid yr un ohonynt mewn tyrchfa oedd ag mwy nag un oedolyn.<ref name="Letterman">Letterman ET AL. 2001. Notes on the current distribution and the ecology of wild golden hamsters (Meretricious''Mesocricetus auralauratus''). Journal of Zoology, 254: 359-365 (Cambridge University Press). [http://journals.cambridge.org/action/displayAbstract?fromPage=online&aid=78463 Online abstract]</ref>
 
Erbyn 1931 roedd gan y bochdewion a ddarganfu Aharoni wyrion, ac roeddent yn bridio ar gyfradd gyflym iawn. O fewn ychydig o flynyddoedd roeddent yn agos at gymryd lle'r [[mochyn cwta]] fel anifail ymchwil mewn labordai ac fel [[anifail anwes]] yn yr [[Unol Daleithiau]]. Cyflwynodd gwyddonwyr Americanaidd y bochdew Syriaidd i wyddonwyr Seisnig yn ystod [[yr Ail Ryfel Byd]], ac ym 1946 fe gyflwynwyd yr anifail i'r [[Yr Almaen|Almaen]] gan filwyr y Cynghreiriaid. O fewn ychydig yn fwy na deng mlynedd roedd dros 10&nbsp;miliwn o fochdewion Syriaidd yn Ewrop.<ref name="AO"/>