Y Dafarn Goch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Mattie (sgwrs | cyfraniadau)
B interwiki
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Ganed y bardd [[Goronwy Owen]] (Goronwy Ddu o Fôn) (1723-69) yn '''Y Dafarn Goch''' ym mhlwyf [[Llanfair Mathafarn Eithaf]], [[Ynys Môn]].
 
Ganed hen-hen-daid Goronwy yn y bwthyn gwreiddiol, mae'n debygol fod yr adeilad yma wedi'u adeiladu yn fuan ar ol 1600 ar y hwyraf. Tybir fod y waliau gwreiddiol hyd at un llath o drwch ac wedi'u llenwi â [[clai|chlai]] coch yn y ceudod - dyma sut cychwynodd y disgrifiad 'Goch' yn yr enw. Nid oes unrhyw wybodaeth fod yr adeilad yn cael ei ddefnyddio fel gwesty neu tafarn ond mae'n bosib mai tafarn ar gyfer gweithwyr yn y [[chwarel]] maen cyfagos. Mae'n debygol fod yr adeilad a'r tir wedi bod yn bentref bychain yn ystod y canol oesoedd lle'r oedd gweithwyr y chwarel maen cyfagos yn byw mewn salsawl ty.
 
Yn 1617 ceir cyfeiriad i'r tŷ a'r tir yn Rhosfawr a'i elwir yn 'Y Tŷ yn y garregGarreg wenWen', a oedd wedi cael ei osod i'r '''ould Gronw, ale house keeper'' sef hen-hen-daid Goronwy Ddu. Enw llawn y Gronw yma oedd Gronwy ap Tudur ap Heilyn sydd ac fe'u ganed oddeutu 1550.
 
Ymhen canrif, yn 1720 ac 1730 roedd Edward Stukeley, gwr i fodryb Goronwy Owen Elin Gronw, yn byw yno - a phryd hynny gelwir y tŷ yn 'Graig-wen.'
Llinell 9:
Tincar oedd tad Goronwy, Owen Gronw, fel ei dad cyn hynny, sef Gorowny 'yr Eurch.' Gweithle Owen oedd y Dafarn Goch. Roedd ei gyn-deidiau yn weithiwyr yn y chwarel cyfagos.
 
Erbyn 1815 roedd 'Y Dafarn Goch' fel eu gelwir erbyn hyn wedi'u ail-adeiladu gan Richard Williams, gŵr Elinor Michael - disgynydd i hen deulu y Dafarn Goch. <ref> Cymdeithas Hynafiaethwyr a Naturiaethwyr Môn (1987)</ref>
 
==Cyfeiriadau==
<references />
 
 
[[en:Y Dafarn Goch]]