Prosiect Llunio'r Dyfodol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Rhaglen dalent unigryw yw ''''Llunio’r Dyfodol'''' sy’n canolbwyntio ar ddatblygiad rhanbarth cyfan. Fe’i dyluniwyd i greu swyddi newydd yng Ngogledd Orllewin Cymru sy’n manteisio ar y lefel uchel o arbenigedd peirianyddol a thechnegol yn niwydiant pŵer niwclear Gogledd Cymru. Bydd y gorsafoedd pŵer hyn yn cael eu dadgomisiynu’n fuan a bydd Gogledd Orllewin Cymru yn colli dau gyflogwr mawr a chyfansoddion allweddol o’r isadeiledd rhanbarthol.
 
Bwriad y prosiect yw lliniaru hyn drwy ailhyfforddi gweithwyr y gorsafoedd er mwyn iddynt feddu ar sgiliau’r dyfodol mewn diwydiannau allweddol – fel pŵer adnewyddadwy a thwristiaeth – a hyrwyddo’r rhanbarth fel canolbwynt talent a gallu.
 
Denwyd lefel arwyddocaol o nawdd ariannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd a’r Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear.
[[Menter Môn]] yw corff atebol '''Llunio’r Dyfodol''', sy’n gweithredu’n eang ledled rhanbarth Gogledd Orllewin Cymru, gan gyflawni amrywiaeth o brosiectau datblygu economaidd yr UE ac amrywiaeth o gontractau menter ar ran comisiynwyr o’r sector cyhoeddus. <ref> (Cymraeg) http://www.skilledupforthefuture.com/cy.asp </ref>
 
==Cyfeiriadau==