Hanes Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 000peter (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan Llywelyn2000.
manion iaith
Llinell 7:
Un canlyniad o'r cyfnod hwnnw oedd y [[Y Deddfau Uno 1536 a 1543|Deddfau Uno]] a roddodd Cymru yn yr un system gyfreithiol a gweinyddol â Lloegr. Ar yr un pryd newidiodd Cymru mewn cenhedlaeth neu ddwy o fod yn wlad [[Eglwys Gatholig|Gatholig]] i fod yn wlad [[Protestaniaeth|Brotestannaidd]]. Gwelwyd hefyd adfywiad llenyddol - cyfnod y [[Dadeni Dysg]] a'r [[Beibl]] [[Cymraeg]] - ond troes y bonedd fwyfwy Seisnigaidd a thyfai bwlch rhwng arweinwyr cymdeithas a'r werin. Un canlyniad o hynny oedd y mudiadau crefyddol [[Ymneilltuaeth|ymneilltuol]] a ymledai'n gyflym yn ystod y [[Yr Ail Ganrif ar Bymtheg yng Nghymru|17eg ganrif]] a'r [[Y Ddeunawfed Ganrif yng Nghymru|18fed]]. Dechreuodd Cymru droi'n wlad ddiwydiannol yn ogystal, ac erbyn diwedd y 18fed ganrif a dechrau'r [[Y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg yng Nghymru|19eg ganrif]] roedd trefi diwydiannol, chwareli a phyllau glo yn nodwedd amlwg ar fywyd y wlad. Tyfodd [[llythrennedd]] ac ymledai'r [[Y Wasg Gymraeg|wasg Gymraeg]]. Cynyddai'r galw am [[Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru|Ddatgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru]] ac am [[hunanlywodraeth]] ac erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd mudiad [[Cymru Fydd]] ar ei anterth.
 
Cymysg fu ffawd y wlad yn ystod y [[Yr Ugeinfed Ganrif yng Nghymru|20fed ganrif]]. Ond er gwaethaf [[y Rhyfel Byd Cyntaf]], [[Dirwasgiad Mawr]] y [[1930au]], [[yr Ail Ryfel Byd]] a'r dirywiad ieithyddol yn y [[1970au]] a'r [[1980au]], mae Cymru heddiw yn meddu [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru|Cynulliad Cenedlaethol]] ac ymddengys fod yr iaith [[Cymraeg|Gymraeg]] yn wynebu dyfodol mwy gobeithiol nag a ddychmygid genhedlaethcenhedlaeth yn ôl.
 
==Cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru==
{{Prif|Cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru}}
Yr oedd Cymru yn rhan o'r [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|Ymerodraeth Rufeinig]] am tua 350 o flynyddoedd. Cawsai'r Rhufeiniaid a'u diwylliant effaith sylweddol ar y wlad a'i phobl. Gadawodd y Rhufeiniaid [[Ffyrdd Rhufeinig Cymru|rwydwaith o ffyrdd]] ar eu hôl a sefydlasant nifer o drefi. Cafodd ei hiaith, [[Lladin]], ddylanwad mawr ar yr iaith [[Cymraeg|Gymraeg]] wrth iddi ymffurfio o [[Ieithoedd Brythonaidd|Frythoneg DiweddarDdiweddar]]; mae tua 600 o eiriau Cymraeg yn tarddu o'r cyfnod hwnnw (yn hytrach nag o Ladin yr Oesoedd Canol fel yn achos ieithoedd eraill fel Saesneg). Credir i'r [[Cristnogaeth|Gristnogaeth]] gyrraedd Cymru yn y cyfnod Rhufeinig hefyd.
 
Roedd Cymru'n gartref i lwythau [[Y Celtiaid|Celtaidd]] fel y [[Silwriaid]] yn y de-ddwyrain a'r [[Gododdin (teyrnas)|Votadini]] yn y gogledd-orllewin, a'u tiriogaeth yn cyfateb yn fras i'r [[Teyrnasoedd Cymru|teyrnasoedd Cymreig]] cynnar a sefydlwyd ar ôl ymadawiad y Rhufeiniaid.
Llinell 17:
==Oes y Seintiau yng Nghymru==
{{Prif|Oes y Seintiau yng Nghymru}}
Mae cloddio archaeolegolarcheolegol wedi datgelu rhywfaint am y cyfnod yn dilyn ymadawiad y Rhufeiniaid. Y safle sydd wedi rhoi mwyaf o wybodaeth yw bryngaer [[Dinas Powys (bryngaer)|Dinas Powys]] ym Morgannwg, lle'r oedd y trigolion yn amlwg yn perthyn i haen uchaf cymdeithas. Ymhlith y darganfyddiadau roedd darnau crochenwaith o ardal [[Y Môr Canoldir|Môr y Canoldir]], [[gwydr]] o ffynhonnell Diwtonaidd a gwaith metel Celtaidd. Credir fod Dinas Powys yn llys pennaeth neu frenin yn y cyfnod yma. Ceir hefyd dystiolaeth meini ag arysgrifen arnynt. Yng ngogledd Cymru roedd y rhain mewn [[Lladin]], ond yn y de-orllewin a [[Teyrnas Brycheiniog|Brycheiniog]] mae'r arysgrifau mewn [[Ogam]] neu'n ddwyieithog. Ymddengys fod Gwyddelod wedi ymsefydlu yma yn y cyfnod wedi i'r Rhufeiniaid adael os nad ynghynt, ac roedd teulu brenhinol [[Teyrnas Dyfed]] o dras Wyddelig.
 
Daeth [[Cristnogaeth]] Cymraeg i'r amlwg gyntaf yn ne-ddwyrain Cymru, gyda thystiolaeth o Gristionogion mewn sefydliadau megis [[Caerwent]] a [[Caerleon|Chaerleon]] yn y cyfnod Rhufeinig. Roedd [[Sant Dyfrig]] yn un o'r arweinwyr cyntaf. Cawn wybodaeth am y seintiau yn eu bucheddau, ond yn anffodus mae y rhan fwyaf o'r rhai sydd wedi goroesi wedi eu hysgrifennu ar ôl y goncwest Normanaidd. Ymhlith y seintiau enwocaf mae [[Dewi Sant]], [[Teilo]], [[Illtud]], [[Cadog]] a [[Deiniol]]. Roedd cysylltiadau agos rhwng Cymru ag [[Iwerddon]] a [[Llydaw]].
 
Ceir rhywfaint o wybodaeth am hanner cyntaf y [[6ed ganrif]] yng ngwaith [[Gildas]], y ''De Excidio Britanniae'', sy’n bregeth mewn tair rhan yn condemnio pechodau’r [[Brythoniaid]] yn ei oes ef ac yn awgrymu mai oherwydd y pechodau hyn yr oedd y [[Sacsoniaid]] wedi goresgyn rhan helaeth o’r ynys. Mae’n condemnio pum teyrn yn arbennig, yn cynnwys [[Maelgwn Gwynedd]], brenin [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]], y mwyaf grymus o'r pump.
Llinell 92:
Erbyn [[1911]] roedd 86,000 o bobl yn gweithio ar y [[rheilffyrdd]] ac yn nociau mawr y De. Ddechrau'r ugeinfed ganrif disodlwyd [[haearn]] gan [[dur|ddur]] fel y prif fetel a oedd yn cael ei allforio o'r wlad. Yr oedd 3,700 yn gweithio mewn gwaith [[copr]] yn [[1911]] ac 21,000 mewn gwaith [[tun]]. Roeddent yn cynhyrchu 848,000 tunnell o blât tin mewn blwyddyn. Cynhyrchwyd 56.8 miliwn tunnell o [[glo|lo]] yn [[1913]]. Roedd Cymru yn allforio traean o holl allforion glo'r byd gan gyflogi 250,000 o ddynion ym meysydd glo'r de a'r gogledd-ddwyrain. Ond cafwyd dirywiad difrifol mewn nifer o'r diwydiannau traddodiadol ar ôl yr [[Ail Ryfel Byd]], yn arbennig yn y meysydd glo. Ym 1913 cyflogid yn y gwaith glo 232,000 o ddynion, ond erbyn [[1960]] dim ond 106,000 a gyflogid a syrthiasai'r nifer i 30,000 yn unig erbyn [[1979]]. Nid oedd ond un pwll glo ar ôl yng Nghymru erbyn y 1990au. Roedd dirywiad tebyg yn y [[diwydiant dur]] ac economi Cymru yn gyffredinol. Roedd Cymru fel nifer o wledydd eraill y gorllewin yn dod yn fwyfwy ddibynnol ar y sector gwasanaeth. Un o ganlyniadau'r dirywiad yn y diwydiant glo ac o ganlyniad esgeuluso diogelwch y tipiau glo oedd [[trychineb Aberfan]], pan lyncwyd ysgol gyfan gan lithriad gwastraff glo gan ladd 144 o blant ac athrawon.
 
Yn [[1911]] roedd gan Gymru boblogaeth o 2,400,000 gyda bron i 1,000,000 yn siarad [[Cymraeg]]. Dyma'r nifer fwyaf erioed ond eisoes roedd y Cymry Cymraeg yn lleiafrif. Ond lladdwyd nifer o CymryGymry ifainc yn y [[Rhyfel Byd Cyntaf]], llawer ohonyn nhw'n siaradwyr Cymraeg. Cafodd [[Dirwasgiad Mawr]] y [[1930au]] ei effaith hefyd a chredir fod tua 450,000 o bobl wedi ymfudo o'r wlad rhwng [[1921]] a [[1939]].
 
Ar droad y ganrif yr oedd tua hanner poblogaeth Cymru yn aelodau o [[eglwys]]. Yn [[1900]] roedd gan y [[Methodistiaid Calfinaidd]] 158,111 o aelodau, yr [[Annibynwyr]] 144,000 a'r [[Bedyddwyr]] 106,000. Erbyn diwedd y ganrif darlun o ddirywiad enbyd a geir.
Llinell 101:
Dangosodd [[Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2001|Cyfrifiad 2001]] gynydd yn y nifer o siaradwyr Cymraeg, gyda 21% o'r boblogaeth 3 oed a hŷn yn gallu'r iaith, i gymharu â 18.7% ym 1991 ac 19.0% ym 1981. Mae hyn yn gyferbyniad i'r patrwm o leihad yn nifer y siaradwyr trwy gydol yr [[20fed ganrif]].<ref>[http://www.statistics.gov.uk/cci/nugget.asp?id=447 Results of the 2001 Census from www.statistics.gov.uk]</ref>
 
Bu nifer o ddatblygiadau o nôdnod yn y brifddinas wedi agoriad [[Stadiwm y Mileniwm]] ym 1999,<ref>[http://www.millenniumstadium.com/3473_3514.php Millennium Stadium website]</ref> megis agoriad [[Canolfan y Mileniwm]] ym 2004 fel canolfan ar gyfer cynnal digwyddiadau diwylliannol. Cwblhawyd adeilad newydd Senedd [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru]] ym mis Chwefror 2006 ac agorwyd yn swyddogol ar [[Dydd Gŵyl Dewi|Ddydd Gŵyl Dewi]]'r un flwyddyn.<ref>[http://www.publicinformation.wales.gov.uk/scripts/viewnews.asp?NewsID=581 The New National Assembly for Wales Senedd opened on St David’s Day]</ref>
 
Enillodd [[Deddf Llywodraeth Cymru 2006|Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006]] [[Cydsyniad Brenhinol|Gydsyniad Brenhinol]], roedd hyn yn golygu y byddai'r Frenhines yn cael ei hadnabod fel ''Her Majesty in Right of Wales'' o Fai 2007 ymlaen, a byddai'n penodi gweinidogion Cymreig ac arwyddo Gorchmynion Cymreig yn y Cyngor. Roedd hefyd yn darparu'r posibilrwydd o gynnal refferendwm yn y dyfodol i ofyn i bobl Cymru os fyddent eisiau i'r Cynulliad allu ennill fwy o bwerau megis y gallu i basio deddfwriaeth gynradd, h.y. y gallu i greu cyfreithiau Cymreig.