Beiau Gwaharddedig Cerdd Dafod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Eisingrug (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Eisingrug (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 4:
Mae rhai o'r rheolau hyn yn hen iawn; o bosibl yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar ddeg pan ysgrifennwyd ''Gramadeg [[Einion Offeiriad]]'' fel arweiniad i'r canu caeth, felly mae'r rheolau wedi'u gwreiddio yn ddwfn yn y [[Llenyddiaeth Gymraeg|Traddodiad Barddol]].
 
Yn yr hen [[Llawysgrifau Cymreig|lawysgrifau]], ceir rhestri o'r beiau hyn, sef '''beiau gwarddedig cerdd dafod''', a chyfiawnhad dros eu bodolaeth. Mae rheolau cerdd dafod, felly, yn ceisio cadw purdeb y farddoniaeth i'r glust gan mai rhywbeth i'w berfformio oedd [[canu caeth]] yr [[Cymru'r Oesoedd Canol|Oesoedd Canol]] a chyfnod y [[Dadeni Dysg]] yn bennaf. Mae'r traddodiad llafar yn rhan amlwg iawn o ''raison d'ê'treêtre'' y rheolau hyn, sef y traddodiad llafar a gadwodd beth o ganu'r [[Cynfeirdd]] ar gof ar hyd canrifoedd yr [[Yr Oesoedd Tywyll yng Nghymru|OesoeddCanol TywyllCynnar]].
 
Dyluniodd [[Pedr Fardd]] gwpledi cofeiriol (''mnemonics'') i ddangos y beiau hyn, a cheir copi ohonynt yn ''Yr Ysgol Farddol'' (1869) gan [[Dafydd Morganwg]]. Fodd bynnag, ni ddylid rhoi gormod o sylw i'r rhain gan fod rhai yn anghywir wrth ddisgrifio'r beiau yn ôl rheolau heddiw. Dyma'r enghraifft a roddir o ''Broest i'r awdl (odl)'':
Llinell 77:
:::::''Yw lleoedd y dylluan.'' ([[Evan Evans (Ieuan Fardd)|Ieuan Brydydd Hir]])
::gan fod "cân" yn cael ei ddefnyddio fel prifodl ddwywaith.
::Gwyddai'r bardd fod yr englyn yn anghywir o'r herwydd, ac felly ceir ffurf arall ar yr [[esgyll]] weithiau, sef
:::::''Mwy echrys fod ei lŷs lân''
:::::''Yn lleoedd i'r dylluan.''
*'''Hanner proest'''<ref>[[Myrddin ap Dafydd]], ''Clywed Cynghanedd'', [[Gwasg Carreg Gwalch]], 1994, tudalen 149</ref>
::Bai camarweiniol a ddyfeisiwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw ''Hanner proest'', sef bod proest gyda chytseiniaid tebyg fel -t a -d yn fai. Ni raid talu sylw iddo; yn wir; mae Syr [[John Morris-Jones]] yn nodi mai ''ynfydrwydd'' ydyw.<ref>[[John Morris-Jones]], ''Cerdd Dafod'', Rhydychen, 1925, tudalen 260-261</ref>. Noda'r "rheol" hon y byddai llinell fel:
::::''Yr heniaithHeniaith yn yuno'r crinwyddcannoedd''
::yn anghywir, gan fod deusain leddf o'r un dosbarth yn y ddau air ("ai" ac "wyoe") a dwy gytsain debyg; "th" a "dd"; ar derfyn y ddau air. Er hyn, ystyrir y llinell yn gwbl gywir heddiw.
*'''Camacennu'''<ref>[[Myrddin ap Dafydd]], ''Clywed Cynghanedd'', [[Gwasg Carreg Gwalch]], 1994, tudalen 150</ref>
::Mae llinell yn euog o ''gamacennu'' pan nad yw'r acen yn gyson ar y ddwy ochr, a phan nad yw'r cytseiniaid o gwmpas yr acen yn dilyn yr un patrwm. Mae'r cyfatebiaethau: