Darjeeling: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
better photo
Dadwneud y golygiad 1191440 gan SupernovaExplosion (Sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 22:
 
== Y "Trên Tegan" ==
[[FileDelwedd:Darjeeling Toy Train at Batasia LoopDHR_780_on_Batasia_Loop_05-02-21_08.jpgjpeg|250px|bawd|Dolen Batasia]]
Mae'r trên bach sy'n cysylltu New Jalpaiguri a Darjeeling yn un o'r [[rheilffyrdd]] lled cyfyng enwocaf yn y byd. Fe'i adeiladwyd yn bennaf i gludo cynnyrch y gerddi te i Galcutta er mwyn ei allforio i Brydain ac [[Ewrop]] a hefyd i gael offer mecanyddol trwm i fyny i'r bryniau. Dechreuwyd y gwaith ar y rheilffordd yn [[1879]] ac yn [[1881]] stemiodd y trên bach cyntaf i mewn i orsaf Darjeeling. Roedd y gwaith yn golygu creu nifer fawr o ddoleni tynn a phontydd ac yn sialens aruthrol i'r peirianwyr, yn arbennig Dolen Batasia, 2 milltir o Darjeeling, lle mae'r trên yn gorfod rhedeg yn ei ôl fesul rhan o'r trac igam-ogam er mwyn ei ddringo. Erbyn heddiw mae'r rheilffordd a'i injans hynafol yn un o brif atyniadau twristaidd gogledd-ddwyrain India ond yn ogystal mae'n dal i wneud ei waith ymarferol yn cludo te i lawr i'r gwastadoedd a nwyddau i fyny i'r bryniau.