Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 59:
 
:Wrth gwrs mae eithriadau (mesen [meˑsɛn]) a byddai siaradwyr o rannau eraill o Gymru yn wahanol, e.e. am <tadau, tonau, tonnau>, ai [t̪ad̪̥ˑa, t̪ɔn̪ˑa, t̪ɔn̪ˑa] sydd ym Mangor, a beth am [tadaɪ, tɔnaɪ, tɔnaɪ] yn iaith plentyn o deulu di-Gymraeg yn ysgol Glantaf Caerdydd? Ydyn ni'n colli'r patrymau "traddodiadol" (fel uchod?) mewn rhannau mwy Seisnig o'r wlad a derbyn patrwm tebycach i'r Saesneg?
*Mae'r [http://www.traditionalhawaiian.com papur diddorol hwn] yn sôn am yr hyn mae'r awdur yn ei alw'n 'Hawäieg newydd' (Saesneg: ''Neo Hawaiian''), sef tafodiaith Hawäieg newydd dysgwyr nad ydyn nhw'n gyfarwydd â defnydd yr iaith gan siaradwyr brodorol 'Hawäieg traddodiadol'. Mae'n werth ei ddarllen wrth gofio'r fersiynau gwahanol o'r Gymraeg sydd gan, er enghraifft, siaradwr o deulu Cymraeg ei iaith yn y Fro Gymraeg a siaradwr o deulu di-Gymraeg sy'n mynychu ysgol gyfrwng Cymraeg yn Wrecsam neu Gaerdydd. Rhaid ystyried iaith oedolion sydd wedi dysgu'r iaith hefyd. Ydy '''fersiwn newydd o'r iaith''' yn cael ei chreu a fydd, yn y pen draw, yn disodli'r iaith fwy traddodiadol wrth i nifer y dysgwyr gynyddu ac i'r iaith wanhau yn y Fro Gymraeg?
 
Hoffwn i ysgrifennu am bethau fel hyn ar Wicipedia, ond does dim tystiolaeth "swyddogol" gyda fi! Ydych chi'n gallu fy helpu?