Ffonograff: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Newydd
 
Llinell 19:
Cafwyd dadl fawr ynglŷn ag Eleanor Jones-Hudson a Bessie Jones; rhai yn ceisio dyfalu oedd yna un gantores ynteu dwy. Yn y golofn ''Collectors Corner'' yn ''y Gramophone'' bu'r golygydd mewn gohebiaeth â Bessie Jones cyn iddi farw tua dwy flynedd yn ôl. Clywyd hi'n canu ar y rhaglen [[Rhwng Gŵyl a Gwaith]] - 0 NA BYDDAI’N HAF 0 HYD pan oedd dros ei phedwar ugain oed.
 
UN ARALL o gantorion Cymru a wnaeth enw iddi ei hun oedd [[Leila meganneMeganne]] o [[Pwllheli|Bwllheli]] ac yn 1912 pan enillodd yn y Gen­edlaethol fe'i clywyd gan [[Lloyd George]] a'i helpodd i dalu am ei haddysg gerddorol ym [[Paris|Mharis]] dan y canwr enwog Jean de Reszke. Daeth yn wraig i [[T. Osborne Roberts]], [[Ysbyty Ifan]], cyfansoddŵr a cherddor gwych.
 
Recordiodd un record yn y Ffrangeg "LES LARMES" a ganodd yn yr ''Opera Comique'' ym Mharis.
 
Un arall a fu'n llwyddiant yn y Gymraeg er wedi ei eni yn America oedd Evan Williams, tenor yn meddu ar lais cyfoethog. Bu'n canu mewn oratorïau ledled Cymru a gwnaeth lawer iawn o recordiau. Yr oedd yn un o artist­iaid y Red Label i [[H.M.V.]].
 
 
==Cyfeiriadau==