Bleidd-ddyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 12:
Mewn [[llên gwerin]] [[Ewrop]]eaidd mae bleidd-ddynion fel arfer yn ddynion drwg wedi'u troi'n fleiddiaid a boenydiai pobl ar orchymyn y [[Diafol]], er bod yna rai straeon am bobl a gafodd eu trawsffurfio'n fleiddiaid yn erbyn eu hewyllys. Yn y 10fed ganrif cawsant yr enw binomaidd ''melancholia canina'' ac yn y 14fed ganrif ''daemonium lupum.''
 
Yn [[Latfia]], roedd ''vilkacis'' yn ddyn a newidiai'n fwystfil bleiddaidd, oedd y gallai fod yn haelionus. Yn [[Hwngari]] roedd y bleidd-ddynion yn byw mewn ardal benodol, sef [[Transdanubia]], a'r gred oedd mai plant a gafodd eu cam-drin gan eu rhieni oeddent, neu ddynion a gafodd eu melltithio yn ystod eu plentyndod. Yn saith blwydd oed, byddai'r plentyn yn gadael ei gartref a mynd i hela yn ystod y nos, a gallai newid yn flaidd neu yn ddyn yn ôl ei ewyllys. Gallai oedolyn hefyd ddod yn flaiddfleidd-ddyn drwy gerdded teirgwaith drwy borth bwaog wedi ei adeiladu o bren [[bedw]] a [[rhosyn]]nau gwyllt.
 
Byddai bleidd-ddynion yn difa pob math o anifeiliaid fferm, yn enwedig defaid. Yn aml byddai'r trawsffurfiad yn digwydd yn ystod [[heuldro|heuldro'r gaeaf]], y [[Pasg]] a phan fo'r [[lleuad]] yn llawn. Yn y 17fed a'r 18fed ganrifoedd roedd yr erledigaeth o [[gwrach|wrachod]] yn Hwngari yn erledigaeth o flaidd-ddynion hefyd, a chafodd y bleidd-ddyn ei gysylltu â'r wrach yn aml. Cysylltir y bleidd-ddyn â'r [[fampir]] yn Hwngari hefyd.<ref>{{dyf llyfr| awdur=György Szabó| teitl=Mitológiai kislexikon| cyfrol=I-II| cyhoeddwr=Trezor| lleoliad=Bwdapest| blwyddyn=1992| isbn=9637685227| iaith=hu}}</ref> Yn [[Serbia]] a gwledydd eraill y [[Balcanau]] yr un creadur yw'r [[fampir|sugnwr gwaed]] a'r bleidd-ddyn.
Llinell 18:
Y gred ymhlith rhai [[Slafiaid]] oedd bod gan unrhyw blentyn a aned gyda gwallt neu fan geni y gallu i droi'n anifail, yn bennaf y blaidd. Yn llên gwerin [[Armenia]] ceir gwragedd sydd, yn sgil pechu, yn cael eu newid yn fleiddiaid am saith mlynedd fel cosb.<ref>{{dyf llyfr| awdur=Mkhitar Gosh| teitl=The Fables of Mkhitar Gosh| lleoliad=Efrog Newydd| cyhoeddwr=Ashod Press| blwyddyn=1987| isbn=9780935102215}}</ref> Ar ôl cael ei chollfarnu, mae'r wraig yn cael ymweliad oddi wrth ysbryd sy'n rhoi croen blaidd iddi a'i gorchymyn i'w wisgo, ac ar ôl ei wisgo'n cael chwant am gnawd dynol. Mae hi'n troi mor wancus am gnawd nes iddi fwyta ei phlant ei hun, ac wedyn plant ei pherthnasau, ac yn olaf plant dieithriaid.
 
Yn ôl llên gwerin [[Belarus]], roedd tywysog o'r 11fed ganrif, [[Vseslav o Polotsk]] (c. [[1039]]–[[1101]]), yn flaiddfleidd-ddyn, a oedd â'r gallu i symud gyda chyflymder goruwchddynol.
 
Cofnodwyd nifer o ymosodiadau gan fleidd-ddynion - ac wedyn achosion llys - yn y 16fed ganrif yn [[Ffrainc]]. Mewn sawl achos ceir tystiolaeth glir o lofruddiaeth a [[canibaliaeth|chanibaliaeth]] ond heb unrhyw gysylltiad â bleiddiaid; mewn achosion eraill mae pobl wedi cael eu poenydio gan y fath fwystfilod, fel yn achos [[Gilles Garnier]] ym [[1573]], lle bu tystiolaeth am bresenoldeb rhyw flaidd ond dim tystiolaeth yn erbyn y cyhuddedig. Cafodd yr ardal o [[Gévaudan]] ei phoenydio gan [[Bwystfil Gévaudan|Fwystfil Gévaudan]] rhwng [[1764]] a [[1767]], pan gafodd 80 o bobl eu lladd gan endid anhysbys a gafodd ei ddisgrifio fel blaidd gan ddyn a oroesodd un o'r ymosodiadau.
 
Ym [[1692]] yn [[Lifonia]], tystiodd dyn 80 oed o'r enw Thiess ar lw mai blaiddbleidd-ddyn oedd e, a dweud mai Cŵn Duw oedd blaiddbleidd-ddynion. Yn ôl Thiess, rhyfelwyr oedd bleidd-ddynion, a fyddai'n rhyfela yn erbyn gwrachod a chythreuliaid yn [[uffern]], a chyda hynny sicrhau nad allai'r Diafol a'i weision ddwyn cnydau lleol ymaith i uffern. Ar ôl marw byddai bleidd-ddynion yn cael eu croesawu i mewn i'r nefoedd fel taliad am eu hymdrechion.<ref>{{dyf cylch| awdur=Daniel Gershenson| teitl=Apollo the Wolf-God| gwaith=Journal of Indo-European Studies, Monograph, 8| cyhoeddwr=McLean, Virginia: Institute for the Study of Man| blwyddyn=1991| iaith=en}}</ref>
 
===Nodweddion cyffredin===
[[Delwedd:BleiddDdyn.jpg|bawd|300px|Torlun pren o flaidd-ddyn a wnaethpwyd ym [[1722]] yn yr [[Almaen]]]]
Yn ôl llên gwerin Ewropeaidd gellir adnabod y bleidd-ddyn drwy arwyddion corfforol diamau, megis aeliau sy'n cwrdd ar bont y trwyn, ewinedd crwm, clustiau wedi eu gosod yn isel a cherdded â brasgam. Ffordd arall o adnabod bleidd-ddyn yw torri cnawd y cyhuddedig i weld os oes blew blaidd dan ei groen. Yn [[Rwsia]] ceir y gred bod gan y bleidd-ddyn wrych o dan ei dafod.<ref name=Woodward>{{dyf llyfr| awdur=Ian Woodward| teitl=The Werewolf Delusion| tud=256| cyhoeddwr=Paddington Press| lleoliad=Efrog Newydd| blwyddyn=1979| isbn=9780448231709| iaith=en}}</ref> Mae ffurf flaiddaiddfleiddaidd y blaidd-ddyn yn amrywio o wlad i wlad. Fel arfer ni ellir gwahaniaethu rhwng bleidd-ddyn yn ei ffurf flaiddaidd a blaidd go iawn, ond clywir am rai eithriadau, er enghraifft:
 
* Nid oes gan y bleidd-ddyn gynffon (nodwedd mae'r bleidd-ddyn yn rhannu â [[gwrach]] ar ôl iddi droi'n anifail)
* Mae gan y bleidd-ddyn lygaid a llais dynol.
 
Ar ôl dychwelyd i'w ffurf ddynol, mae'r blaiddbleidd-ddyn yn dod yn wan, yn ddiegni ac yn isel ei ysbryd.<ref name=Woodward /> Nodwedd arall a ffieiddiai pobl ar draws Ewrop yn ystod y canol oesoedd oedd arfer y bleidd-ddyn o fwyta celanedd y meirw, nodwedd a gafodd ei chofnodi ledled Ewrop, yn enwedig mewn testunau fel yr ''Annales Medico-psychologiques'' yn y 19fed ganrif. Wrth gwrs, mae bwyta cyrff y meirw yn arfer mae'r bleidd-ddyn yn rhannu â bleiddiaid go iawn, fel mae lleoliadau [[bleiddbwll|bleiddbyllau]] yng [[Cymru|Nghymru]] yn awgrymu.<ref name=Galwad>{{dyf llyfr| awdur=Cledwyn Fychan| teitl=Galwad y Blaidd| cyhoeddwr=Cymdeithas Lyfrau Ceredigion| blwyddyn=2006| isbn=9781845120481}}</ref>
 
===Dod yn fleidd-ddyn===
Llinell 46:
 
===Lycanthropedd fel melltith===
Cafodd y felltith o lycanthropedd ei hystyried gan rai ysgolheigion i fod yn gosb ddwyfol. Dengys llenyddiaeth ar flaiddfleidd-ddynion sawl enghraifft o D[[duw]] neu [[sant|saint]] yn cosbi unigolion â lycanthropedd. ''Omnes angeli, boni et Mali, ex virtute naturali habent potestatem transmutandi corpora nostra'' ("Mae gan bob angel, da a drwg, y gallu i drawsffurfio ein cyrff") meddai'r sant [[Thomas Aquinas]]. Byddai'r rhai a gafodd eu hesgymuno gan yr [[Eglwys Gatholig]] hefyd yn dod yn flaiddfleidd-ddynion, yn ôl y gred.<ref name=Woodward /> Yn [[Rwsia]] roedd y Diafol hefyd yn melltithio pobl â lycanthropedd.
 
===Gwendidau===
Mewn ffuglen gyfoes gellir clwyfo a lladd blaiddbleidd-ddynion gydag arfau a wnaethpwyd o arian, ond fel arall maent yn anodd eu clwyfo. Ymddengys nad yw'r gwendid hwn yn dyddio yn ôl yn bellach na ffuglen y 19fed ganrif.
 
Yn wahanol i [[fampir]]od, ni all effeithio ar flaiddfleidd-ddynion gydag arteffactau crefyddol neu ddŵr cysegredig. Mewn sawl gwlad gall [[rhyg]], [[uchelwydd]], [[criafol]] a [[cwcwll y mynach|chwcwll y mynach]] (''Aconitum napellus'') gadw blaiddbleidd-ddynion draw.
 
===Meddyginiaethau===
Ceir sawl dull o drin lycanthropedd. Credai'r Groegiaid a'r Rhufeiniaid y byddai blinder corfforol yn iacháu lycanthropedd. Byddai'r dioddefydd yn cael ei orfodi i ymgymryd â chyfnodau hir o ymarfer corfforol er mwyn cael gwared â'i salwch. Yn y canol oesoedd ceir tri dull traddodiadol o drin lycanthropedd: ffisig, llawdriniaeth a dadreibiad. Yn anffodus i'r dioddefydd, profai'r rhan fwyaf o'r meddyginiaethau ar gael i fod yn angheuol. Y gred yn [[Sisili]] oedd y gellir iacháu blaiddbleidd-ddynion naill ai drwy ei daro ar ei dalcen â chyllell, ynteu drwy drywanu ei ddwylo gyda hoelion. Yn [[Schleswig-Holstein]] y gred oedd y gellir iacháu blaiddbleidd-ddyn drwy alw ei enw bedydd teirgwaith. Yn llên gwerin [[Denmarc]] gellir iacháu blaidd-ddyn drwy refru arno. Dull arall o iacháu blaidd-ddyn oedd i'w fedyddio. Gallai ymroddiad i Sant Hubertus hefyd iacháu lycanthropedd, yn ogystal â diogelu rhagddo.
 
===Llên glasurol===
[[Delwedd:Lycaon turned into wolf-Goltzius-1589.jpg|bawd|dde|250px|[[Zeus]] yn troi [[Lycaon]] yn [[blaidd|flaidd]], cerflun gan [[Hendrik Goltzius]].]]
Yn ei waith ''Historiai'' ysgrifennai [[Herodotus]] am lwyth o'r enw y Neuri, oedd yn byw yng ngogledd-ddwyrain [[Scythia]]. Byddai'r Neuri yn newid yn flaiddiaidfleiddiaid unwaith pob naw blynedd.<ref>{{dyf llyfr| awdur=Herodotus| teitl=Historiai| cyfrol=Llyfr IV| pennod=105}}</ref> Roedd [[Fyrsil]] hefyd yn gyfarwydd â dynion yn trawsffurfio'n flaiddiaid. Ym mytholeg Gwlad Groeg ceir yr hanes am [[Lycaon]], a gafodd ei droi'n flaidd gan [[Zeus]] am fwyta cnawd dynol.
 
Ym ''[[Metamorphoses]]'' disgrifiodd y bardd [[Ofydd]] chwedlau am ddynion a grwydrai coedwigoedd [[Arcadia]] yn rhith bleiddiaid.