Bleidd-ddyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau)
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 14:
Yn [[Latfia]], roedd ''vilkacis'' yn ddyn a newidiai'n fwystfil bleiddaidd, oedd y gallai fod yn haelionus. Yn [[Hwngari]] roedd y bleidd-ddynion yn byw mewn ardal benodol, sef [[Transdanubia]], a'r gred oedd mai plant a gafodd eu cam-drin gan eu rhieni oeddent, neu ddynion a gafodd eu melltithio yn ystod eu plentyndod. Yn saith blwydd oed, byddai'r plentyn yn gadael ei gartref a mynd i hela yn ystod y nos, a gallai newid yn flaidd neu yn ddyn yn ôl ei ewyllys. Gallai oedolyn hefyd ddod yn fleidd-ddyn drwy gerdded teirgwaith drwy borth bwaog wedi ei adeiladu o bren [[bedw]] a [[rhosyn]]nau gwyllt.
 
Byddai bleidd-ddynion yn difa pob math o anifeiliaid fferm, yn enwedig defaid. Yn aml byddai'r trawsffurfiad yn digwydd yn ystod [[heuldro|heuldro'r gaeaf]], y [[Pasg]] a phan fo'r [[lleuad]] yn llawn. Yn y 17fed a'r 18fed ganrifoedd roedd yr erledigaeth o [[gwrach|wrachod]] yn Hwngari yn erledigaeth o flaiddfleidd-ddynion hefyd, a chafodd y bleidd-ddyn ei gysylltu â'r wrach yn aml. CysylltirYn Hwngari cysylltir y bleidd-ddyn â'r [[fampir]] yn Hwngari hefyd.<ref>{{dyf llyfr| awdur=György Szabó| teitl=Mitológiai kislexikon| cyfrol=I-II| cyhoeddwr=Trezor| lleoliad=Bwdapest| blwyddyn=1992| isbn=9637685227| iaith=hu}}</ref> Yn [[Serbia]] a gwledydd eraill y [[Balcanau]] yr un creadur yw'r [[fampir|sugnwr gwaed]] a'r bleidd-ddyn.
 
Y gred ymhlith rhai [[Slafiaid]] oedd bod gan unrhyw blentyn a aned gyda gwallt neu fan geni y gallu i droi'n anifail, yn bennaf y blaidd. Yn llên gwerin [[Armenia]] ceir gwragedd sydd, yn sgil pechu, yn cael eu newid yn fleiddiaid am saith mlynedd fel cosb.<ref>{{dyf llyfr| awdur=Mkhitar Gosh| teitl=The Fables of Mkhitar Gosh| lleoliad=Efrog Newydd| cyhoeddwr=Ashod Press| blwyddyn=1987| isbn=9780935102215}}</ref> Ar ôl cael ei chollfarnu, mae'r wraig yn cael ymweliad oddi wrth ysbryd sy'n rhoi croen blaidd iddi a'i gorchymyn i'w wisgo, ac ar ôl ei wisgo'n cael chwant am gnawd dynol. Mae hi'n troi mor wancus am gnawd nes iddi fwyta ei phlant ei hun, ac wedyn plant ei pherthnasau, ac yn olaf plant dieithriaid.