Urdd Oren: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
refs. Dim ond eu copio o en sydd raid bellach.
Llinell 1:
[[Image:Flag of the Orange Order.svg|right|thumb|Baner y Sefydliad Orange]]
 
Sefydliad Protestannaidd, yn bennaf yng [[Gogledd Iwerddon|Ngogledd Iwerddon]], yw '''Sefydliad Orange''', neu'r '''Urdd Oren''' ([[Saesneg]]: ''Orange Order''). Nodweddir y sefydliad gan ei wrthwynebiad i'r [[Eglwys Gatholig]]. Rhaid i unrhyw aelod fod yn Brotestant, ac fel rheol rhaid bod o deulu Protestannaidd hefyd, er y gellir gwneud eithriadau. <ref>Tonge, Johnathan. ''Northern Ireland''. Polity, 2006. Tudalennau 24, 171, 172, 173.</ref><ref>David George Boyce, Robert Eccleshall, Vincent Geoghegan. ''Political Thought In Ireland Since The Seventeenth Century''. Routledge, 1993. Tudalen 203.</ref><ref>Mitchel, Patrick. ''Evangelicalism and national identity in Ulster, 1921–1998''. Oxford University Press, 2003. Tudalen 136.</ref>
 
Ceir gwreiddiau'r sefydliad yn rhan olaf y [[18fed ganrif]], a'r ymladd yn erbyn yr [[Amddiffynwyr (Iwerddon)|Amddiffynwyr]], oedd yn Gatholigion. Fe'i sefydlwyd yn [[Loughgall]] [[Swydd Armagh]] yn [[1795]]. Daw'r enw o deitl [[Tywysog Orange]], teitl gwreiddiol [[Wiliam III & II, brenin Lloegr a'r Alban]]. Daeth ef yn arwr Protestaniaid Gogledd Iwerddon yn dilyn ei fuddugoliaeth ym [[Brwydr y Boyne|Mrwydr y Boyne]]. Er nad oes cysylltiad uniongyrchol a'r lliw [[oren]], daeth y lliw yma i gynrychioli unoliaethwyr Gogledd Iwerddon.
Llinell 7:
Ymladdodd llawer o aelodau'r Sefydliad ar ochr y llywodraeth yng ngwrthryfel [[1798]]. Erbyn diwedd y [[19eg ganrif]], roedd ei aelodaeth wedi lleihau yn fawr, ond adfywiodd pan gododd gwrthwynebiad i annibynniaeth Iwerddon ar ran y Protestaniaid. Daeth yn elfen bwysig yng Ngogledd Iwerddon wedi rhannu'r ynys. Cynhelir gorymdeithiau blynyddol, sy'n aml yn achosi anghydfod.
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Hanes Iwerddon]]