Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Helyntion Beca"

Ychwanegwyd 82 beit ,  8 o flynyddoedd yn ôl
Un o achosion amlwg yr helynt oedd y tollbyrth eu hun, a weinyddwyd gan y Cwmnïau Tyrpeg newydd. Roedd rhaid talu tollau i deithio ar hyd y prif-ffyrdd hyn. Roedd ddeuddeg Cwmni yn sir Gaerfyrddin, pedwar yn [[Sir Benfro]], dau yn [[Sir Aberteifi]], dau yn [[Sir Faesyfed]], un yn [[Sir Frycheiniog]] a deuddeg ym [[Morgannwg]]. Roedd nifer uchel y Cwmnïau Tyrpeg yn yr ardal yn golygu bod rhaid i deithwyr talu tollau sawl gwaith (am bob cwmni) i'w gymharu â Lloegr lle nad oedd y fath gor-gystadlu. Roedd rhaid i'r ffermwyr talu tollau wrth yrru'u [[gwartheg]] a theithio yn ôl ac ymlaen i'r marchnad, ac wrth ôl calch fel gwrtaith am y pridd.
 
Nid yr unig rheswm dros yr helyntion oedd y tollbyrth. Roedd tuedd gan werin De-Orllewin Cymru i weinyddu cyfraith eu hun trwy'r traddodiad o'r [[Ceffyl Pren]]. Dyma arfer o siomi yn gyhoeddus aelod o'r gymuned sydd wedi achosi cerydd i'w gymdogion neu gydweithio a'r awdurdodau. Byddai dorf gyda'i wynebau'n ddu (fel wnaeth Merched 'Beca) yn cario ffigur ceffyl at ddrws y berson, neu ffigur yn ei ddynwared (a weithiau llosgwyd), neu hyd yn oed y berson ei hun, gan ei fychanu. Yn ol yr hanesydd David Williams, "ymestyniad o arfer y Ceffyl Pren" oedd terfysgoedd 'Beca <ref>'The Rebecca Riots' gan D Williams, tud56; Gwasg Prifysgol Cymru 1955.</ref>.
 
Roedd achosion eraill yr helyntion yn gynnwys:
162

golygiad