Helyntion Beca: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Diobaithyn (sgwrs | cyfraniadau)
Diobaithyn (sgwrs | cyfraniadau)
→‎Achosion: Ychwanegu cyfernodau
Llinell 18:
* Y dirwasgiad amaeth a ddechreuodd yn 1836 (a ddaeth i ben tua'r un amser a orffennodd y terfysgoedd) a chyfres o gynaeafau wael.
* Baich y degwm, yr arian talwyd i'r Eglwys Anglicanaidd gan y ffermwyr. Achosodd anfodlonrwydd ychwanegol gan y ffaith mai anghydffurfwyr oedd rhan fwyaf o'r werin. Waethygwyd y baich gan Ddeddf Cymudiad y Degwm (1836) wnaeth seilio maint y degwm ar brisiau gnydau o'r 7 mlynedd cynt. O ganlyniad roedd rhaid i'r werin talu degwm uchel yn seiliedig ar y prisiau uchel cnydau yn y flynyddoedd cynt er bod y prisoedd wedi disgyn yn ddiweddarach.
* Y diffyg cymorth i'r tlawd yn dilyn Deddf Gwella Cyfraith y Tlodion (1834) wnaeth diddymu cymorth allanol a gorfodi i'r tlawd gweithio yn Tlotai. Ymosododd Merched 'Beca ar dloty Caerfyrddin yn 1843.<ref>{{cite web|http://www.workhouses.org.uk/Carmarthen/ |accessdate=4 May 2012}}</ref>
* Yr atgasedd at y tirfeddianwyr a'r rent roeddent yn codi. Roedd nifer ohonynt yn landlordiaid absennol, a waethygwyd y gwrthdaro gan wahaniaethau mewn iaith (nid oedd y rhan fwyaf yn siarad iaith y werin, Cymraeg) a chrefydd (Anglicaniaid oedd y rhan fwyaf, i'w gymharu a'r werin Anghydffurfiol). Gweinyddwyd nifer o'r Gwmnïau Tyrpeg atgas gan yr un tirfeddianwyr, a hwy oedd yn Ynadon yn y Llysoedd. Roedd y gyfraith a'r achosion llys Saesneg ni ddeallwyd gan y werin uniaith Cymraeg yn achos arall am anfodlonrwydd. Bygythiwyd tirfeddianwyr ymysg parchedigion Anglicanaidd gan lythyron o ferched 'Beca.