Eric Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llwybrau (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llwybrau (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Dringwr ac anturiaethwr Cymreig o [[Tremadog|Dremadog]], [[Gwynedd]], yw [[Eric Jones]] (ganwyd 1936). Mae'n fwyaf adnabyddus am ddringo wyneb gogleddol yr [[Eiger]] yn yr [[Alpau]], yn [[1981]] ar ei ben ei hun, a ffilmiwyd gan Leo Dickinson fel ''Eiger Solo''. Yn ogystal â hyn, mae Eric Jones yn enwog am ddringo y [[Matterhorn]] a'r [[Bwlch|bwlch deheuol]] i gopa [[Everest]].
 
Magwyd Eric Jones ar fferm ei deulu ger pentref [[Derwen|Derwen, Sir Dinbych]], Sir Ddinbych a mynychodd [[Ysgol Brynhyfryd]] yn [[Rhuthun]]. Treuliodd lawer o'i blentyndod yn cynorthwyo ar y fferm a daeth yn brif ofalwr ar y fferm ar ôl marwolaeth ei dad pan oedd Eric yn ddeunaw mlwydd oed. Yn fuan wedyn, symudodd y teulu a dechreuodd Eric weithio mewn [[chwarel]] yn [[Gwyddelwern|Ngwyddelwern]]. Pan gafodd yr alwad i gwblhau ei wasanaeth cenedlaethol, roedd bryd Eric ar ymuno gyda Chatrawd y Parasiwtwyr, ond methodd a gwneud hynny oherwydd ei fod wedi dioddef anaf i'w [[pen-glin|ben-glin]]. Yn y pen draw, ymunodd Eric gyda'r Heddlu Milwrol a threuliodd ddwy flynedd yn gwasanaethu gyda hwy.
 
Pan ddychwelodd Eric i Gymru, cychwynodd weithio mewn [[ffatri]] yn [[Y Fflint]]. Yn ysod ei amser hamdden, byddai Eric yn hoff o ymweld â'r mynyddoedd yn [[Eryri]] ac yn 25 mlwydd oed, penderfynodd Eric a'i gyfaill Gordon Rees ddilyn cwrs tri niwrnod a gynhaliwd yn [[Dyffryn Ogwen|Nyffryn Ogwen]] ar sut i ddringo gyda rhaffau.