Eric Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llwybrau (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Llwybrau (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 3:
Magwyd Eric Jones ar fferm ei deulu ger pentref [[Derwen|Derwen, Sir Dinbych]], a mynychodd [[Ysgol Brynhyfryd]] yn [[Rhuthun]]. Treuliodd lawer o'i blentyndod yn cynorthwyo ar y fferm a daeth yn brif ofalwr ar y fferm ar ôl marwolaeth ei dad pan oedd Eric yn ddeunaw mlwydd oed. Yn fuan wedyn, symudodd y teulu a dechreuodd Eric weithio mewn [[chwarel]] yn [[Gwyddelwern|Ngwyddelwern]]. Pan gafodd yr alwad i gwblhau ei wasanaeth cenedlaethol, roedd bryd Eric ar ymuno gyda Chatrawd y Parasiwtwyr, ond methodd a gwneud hynny oherwydd ei fod wedi dioddef anaf i'w [[pen-glin|ben-glin]]. Yn y pen draw, ymunodd Eric gyda'r Heddlu Milwrol a threuliodd ddwy flynedd yn gwasanaethu gyda hwy.
Pan ddychwelodd Eric i Gymru, cychwynodd weithio mewn [[ffatri]] yn [[Y Fflint]]. Yn ysod ei amser hamdden
Dysgodd Eric ddringo yn ardal [[Llanberis]] a daeth yn feistr ar y grefft yn sydyn iawn. Wedi hynny, dechreuodd ddringo ar ei ben ei hun heb raffau, a bu'n dringo llawer yn ardaloedd yr [[Alpau]] a'r [[Himalaya]] yn ogystal a mynyddoedd [[De America|De'r Amerig]].
|