Eric Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llwybrau (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
refs refs refs
Llinell 1:
Dringwr ac anturiaethwr Cymreig o [[Tremadog|Dremadog]], [[Gwynedd]], yw [[Eric Jones]] (ganwyd 1936). Mae'n fwyaf adnabyddus am ddringo wyneb gogleddol yr [[Eiger]] yn yr [[Alpau]], yn [[1981]] ar ei ben ei hun, a ffilmiwyd gan Leo Dickinson fel ''Eiger Solo''. Yn ogystal â hyn, mae Eric Jones yn enwog am ddringo y [[Matterhorn]] a'r [[Bwlch|bwlch deheuol]] i gopa [[Everest]].<ref name = "The man who jumped">[http://www.bbc.co.uk/wales/talkwales/transcripts/eric_jones.shtml The Man who jumped beneath the Earth; Adalwyd 7 Mai 2012]</ref>
 
Magwyd Eric Jones ar fferm ei deulu ger pentref [[Derwen|Derwen, Sir Dinbych]], a mynychodd [[Ysgol Brynhyfryd]] yn [[Rhuthun]]. Treuliodd lawer o'i blentyndod yn cynorthwyo ar y fferm a daeth yn brif ofalwr ar y fferm ar ôl marwolaeth ei dad pan oedd Eric yn ddeunaw mlwydd oed. Yn fuan wedyn, symudodd y teulu a dechreuodd Eric weithio mewn [[chwarel]] yn [[Gwyddelwern|Ngwyddelwern]]. Pan gafodd yr alwad i gwblhau ei wasanaeth cenedlaethol, roedd bryd Eric ar ymuno gyda Chatrawd y Parasiwtwyr, ond methodd a gwneud hynny oherwydd ei fod wedi dioddef anaf i'w [[pen-glin|ben-glin]]. Yn y pen draw, ymunodd Eric gyda'r Heddlu Milwrol a threuliodd ddwy flynedd yn gwasanaethu gyda hwy.
Llinell 8:
 
Yn ychwanegol i ddringo mynyddoedd, mae Eric Jones yn ymddiddori mewn [[parasiwtio]] a [[neidio B.A.S.E.]]. Mae hefyd yn berchenog ar gaffé yn Nrhemadog.
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
==Dolenni allanol==