Rhodri Glyn Thomas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Aelod Cynulliad [[Plaid Cymru]] dros Etholaeth [[Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr]] ers [[1999]] yw '''[[Rhodri Glyn Thomas]]'''.
 
Ganwyd ef ym [[1953]] yn [[Wrecsam]], [[Clwyd]], [[Gogledd Cymru]]. Gweinidog o [[Llangadog|Langadog]] oedd tadcu Rhodri Glyn Thomas. Magwyd ei dad yn Llangadog a bu'n athro yn Ysgol Ramadeg y [[Gwendraeth]]. Aeth Rhodri i Ysgol Bodhyfryd, Wrecsam, ac yna i Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam cyn gadael am [[Prifysgol Cymru, Aberystwyth|Brifysgol Cymru, Aberystwyth]] ym [[1975]] i astudio am radd yn y [[Gymraeg]]. Wedi graddio ym [[1978]], astudiodd am radd BD mewn [[Diwinyddiaeth]] ym [[Prifysgol Cymru, Bangor|Mhrifysgol Cymru, Bangor]]. Ym [[1991]] astudiodd Rhodri am radd MTh ym [[Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan|Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan]], yn darllen [[Diwinyddiaeth]] [[UDA|Americanaidd]].
 
Ym [[1992]] ymladdodd hen sedd seneddol [[Caerfyrddin]] yn yr [[Etholiad Cyffredinol]] dros y Blaid. Yn [[Etholiad Cyffredinol 1997]] safodd yn etholaeth [[Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr]]. Ym [[1999]] ymladdodd yr un etholaeth yn etholiadau'r [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru|Cynulliad]] gan ennill o 6,980 o bleidleisiau a chynyrchu 'swing' enfawr o 21% yn erbyn y [[Y_Blaid_Lafur_%28DU%29|Blaid Lafur]]. Cadwodd y sedd yn etholiadau'r Cynulliad yn [[2003]].