Trawsnewidiad y Frythoneg i'r Gymraeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 31:
|}
 
Roedd cyflyrau tebyg hefyd i'r ansoddeiriau. Byddai terfyniadau ansoddeiriau a rhifolion yn amrywio i ddangos [[cenedl enwau|cenedl gair]] a allai fod yn wrywaidd, benywaidd neu ddiryw megis '''trumbos''' (gwrywaidd), '''trumba''' (benywaidd), '''trumbon''' (diryw). Collwyd y terfyniadau hyn oherwydd yr acen cryf a ddatblygodd ar y sillaf olaf ond un, gan atal y sillaf olaf rhag cael ei hyngan; e.e. enwau '''bardos''' → '''bardd''', '''mapos''' → '''mab''', ansoddeiriau '''u̯indos''' → '''gwyn''', '''u̯inda''' → '''gwen''', '''trumbos''' → '''trwm''', '''trumba''' → '''trom''', rhifolion '''oinos''' → '''un'''. Collwyd y genedl ddiryw.
 
===Cyfnewidiadau seiniol===
Llinell 40:
'''ā''' → '''aw''', '''o'''; '''ī''' → '''i''', '''ü''' → '''i'''; '''ae''' → '''oe'''; '''ei''' → '''wy'''; '''oi''' → '''u'''; '''au''' → '''u''', '''aw''', '''au'''
 
Newidiwyd '''u̯''' ar ddechrau gair i '''gw''', e.e. '''u̯indos''' → '''gwyn'''. Weithiau byddai'r seiniau yn newid lawer gwaith, e.e. '''brĭctos''' → '''brĭchtos''' → '''brĭchthos''' → '''brĭghthos''' → '''brĭi̯thos''' → '''brithos''' → '''brith'''. Byddai llafariad yn gallu dylanwadu ar lafariad gyfagos gan achosi newid mewn proses a elwir yn affeithiad. CaiCâi y llafariad gyntaf ei newid fel bod siâp y geg yn debycach i siâp y geg wrth yngan yr ail lafariad, e.e. affeithiodd yr '''ā''' yn '''uĭndā''' yr '''ĭ''' yn y sillaf o'i blaen a'i throi'n '''e''' yn '''uendā'''. Troes hwnnw yn '''gwen'''.
 
===Adeiladu ffurfiau gramadegol newydd===
Byddai gwahanol gyflyrau gair yn newid mewn gwahanol ffyrdd yn ôl y cyfuniadau llafariaid yn y geiriau, e.e. troes '''bardos''' (unigol enwol) yn '''bardd''' (dim newid yn y llafariad). Troes '''bardi''' (lluosog enwol) yn '''beirdd''' (yr '''i''' ar ddiwedd '''bardi''' yn affeithio'r '''a''' a'i newid yn '''ei''', wedyn y terfyniad yn cael ei golli). Yn y ffordd hon, wedi colli'r terfyniadau rheolaidd Brythoneg ar eiriau, ffurfid patrymau newydd o ffurfiau unigol/lluosog. Pan fyddai colli terfyniad yn creu unigol a lluosog yn gywir yr un fath byddai siaradwyr yn cymathu'r gair i un o'r patrymau unigol/lluosog newydd, e.e. '''ceiliog/ceiliogod''' yn dilyn y patrwm a fodolai eisoes o ychwanegu '''–od''' i ffurfio lluosog.
 
Terfyniad '''–ā''' oedd i ffurf fenywaidd ar ansoddair yn y Frythoneg. Affeithid llafariad fôn y gair gan yr '''–ā''' derfynol, e.e. '''dŭbnā''' → '''dofn''' (o'i gymharu â'r newid yn y ffurf wrywaidd '''dŭbnos''' → '''dwfn'''). Gwelwn ddechrau ffurfio patrymau newydd i wahaniaethu rhwng ansoddeiriau benywaidd a gwrywaidd yn tyfu o'r hen derfyniadau Brythoneg. Yn yr un modd byddai'r terfyniad '''i''' ar ffurf luosog ansoddair yn affeithio'r llafariad yn y sillaf blaenorol ac yna weithiau'n newid ei hunan gan greu patrymau newydd i'r ffurf luosog ar ansoddair. Yng Nghymraeg heddiw lluosog '''dwfn''' yw '''dyfnion'''.