Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Academi Bangla"

Ychwanegwyd 366 beit ,  8 o flynyddoedd yn ôl
refs
B (robot yn ychwanegu: id:Akademi Bangla)
(enw defnyddiwr wedi ei ddiddymu)
(refs)
Asiantaeth iaith (neu fwrdd iaith) genedlaethol sy'n hyrwyddo'r iaith [[Bengaleg|Fengaleg]] (Bangla) ym [[Bangladesh|Mangladesh]] yw'r '''Academi Bangla''' ([[Bengaleg]]: বাংলা একাডেমী ; [[Saesneg]]: ''Bangla Academy''). Cafodd ei sefydlu ar [[3 Rhagfyr]] [[1955]]. Lleolir ei phencadlys yn Nhŷ Burdwan ar gampws [[Prifysgol Dhaka]], ger Parc Ramna yn [[Dhaka]], prifddinas Bangladesh.
 
Sefydlwyd yr Academi yn dilyn cyfnod o ymgyrchu am hawliau ieithyddol gan fudiadau protest fel [[Bhasha Andolon]] ac addewid cyn etholiad 1954 gan y Ffrynt Unedig i greu'r ganolfa. Dywedodd eu maniffesto: ''"The prime minister from the United Front will dedicate the Bardhaman House for establishing a research centre for Bengali language"''.<ref>Mamun, Muntasir (Ionawr 2004) [1993] (Mewn Bengaleg). Dhaka: Smriti Bismritir Nogori (3ydd argraffiad, 4ydd argraffiad). Dhaka, Bangladesh: Ananya Publishers. tud. 178–180.</ref>
 
Prif orchwyl yr Academi yw cynnal gwaith ymchwil ar yr iaith Fengaleg, a'i diwylliant a hanes, a chyhoeddi gwaith llenyddol ac academaidd amdanynt. Mae wedi sefydlu Gwobr yr Academi Bangla, a roddir yn flynyddol am gyfraniadau llenyddol ac academaidd yn yr iaith.
 
I goffhau Bhasha Andolon a Diwnrod Merthyron yr Iaith, mae'r Academi yn cynnal Ffair Lyfrau Ekushey, y ffair lyfrau fwyaf yn y wlad, sy'n rhedeg am fis bob blwyddyn.
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
== Gweler hefyd ==
 
== Dolen allanol ==
* {{eiconiaith|Bengaleg}} {{eicon en}} [http://www.banglaacademy.org.bd/english/index.php Gwefan swyddogol yr Academi]
 
[[Categori:Addysg ym Mangladesh]]
(enw defnyddiwr wedi ei ddiddymu)