Hanes Armenia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
MystBot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 2:
 
== Cyfnod cynnar ==
[[Image:Caucasus03.png|thumb|260px|right]]
Yn y [[Yr Henfyd|cyfnod clasurol]] roedd Armenia yn deyrnas annibynnol, a than ei brenin [[Tigranes Fawr]] (teyrnasodd [[95 CC]] - [[55 CC]]) meddiannodd diroedd helaeth, cyn belled a [[Syria]]. Sefydlodd Tigranes brifddinas newydd, [[Tigranocerta]]. Yn [[66 CC]] gorchfygwyd ef gan y Rhufeiniaid dan [[Gnaeus Pompeius Magnus]], ac o hynny hyd ddiwedd ei oes roedd yn teyrnasu dan arolygaeth Rhufain. Rhennid tiriogaeth Armenia yn ddwy dalaith gan y [[Rhufeiniaid]], sef [[Armenia Inferior]] (neu ''Armenia Minor'') ar arfordir y Môr Du ac [[Armenia Superior]] (neu ''Armenia Major'') yn y dwyrain. Bu ymgiprys sawl gwaith am reolaeth ar yr olaf rhwng Rhufain a phŵerau eraill yn y rhanbarth.