Llusiduonbach
Joined 15 Medi 2008
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 3:
Hoffwn ysgrifennu am bethau tebyg i'r isod:
Mae'r [http://en.wikipedia.org/wiki/Norwegian_phonology#Pulmonic_ingressive erthygl hon] yn dweud bod y gair Norwyeg ''ja'' "ie" yn cael ei ynganu'n fewngyrchol. Oes ymchwil wedi'i wneud ar y sain fewngyrchol mae rhai o siaradwyr y Gogledd yn ei gwneud ar ddiwedd brawddegau weithiau?
Pam mae <y> Gymraeg yn cael ei hynganu'n {{IPA|[ə]}} ond pan sonnir am y llythyren ei hyn bydd llawer yn dweud {{IPA|[ɜː]}}? Dylanwad y Saesneg? Ond sut, pam, o ble? Hefyd, a oes rhywun wedi astudio amlder y "tafod tew", sef ynganu {{IPA|/r/}} Gymraeg yn {{IPA|[ʀ~ʁ]}}? Beth am {{IPA|/ɬ/}}// yn {{IPA|[ç]}} a geir mewn rhai geiriau gan rai?
Ers i Bwyllgor Llên Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru gyhoeddi'u hargymhellion i sefydlu ''Orgraff yr Iaith Gymraeg'' yn 1928, mae'n ddiddorol gweld sut mae'r orgraff wedi trin geiriau benthyg o'r Saesneg. Yn fwy diweddar mae'r Cynulliad, ymhlith eraill, wedi chwarae rhan bwysig wrth safoni'r iaith ysgrifenedig ar gyfer ei gyhoeddiadau.
Er enghraifft, yn system Prifysgol Cymru cynrychiolir {{IPA|
Er hynny, dim ond yn rhannol mae'r rheolau'r Pwyllgor wedi cael eu gorfodi. Rydym yn hen gyfarfwydd â'r gair <bin> yn y Gymraeg, sef rhywbeth i cadw sbwriel ynddo, ond sut mae'i sillafu'n iawn? Nid yw'r gair yn dilyn y rheol uchod, a fyddai'n rhoi < bìn>. Felly erbyn hyn, gall <bin> gynrychioli {{IPA|/bɪn/}} yn ogystal â {{IPA|/biːn/}}, sef <pin> {{IPA|/piːn/}} wedi'i dreiglo'n feddal, ac mae <fin> gynrychioli {{IPA|/vɪn/}} a {{IPA|/viːn/}}, sef treglad meddal ar <min> {{IPA|/miːn/}}.
Mae 'problemau' tebyg i'w cael mewn geiriau fel <cracyr> ac *<albym> {{IPA|/krakər, albəm/}} nid, fel y bydden nhw yn ôl y system draddodiadol, *{{IPA|/krakɨr krakɪr, albɨm albɪm/}}.
A yw'r system newydd yn cael ei defnyddio mewn geiriau 'lletchwith' i ddechrau ac yna maent yn cael eu safoni yn nes ymlaen? Neu a fydd system sillafu'r Gymraeg yn dechrau bod yn fwy afreolaidd wrth i ni dderbyn rhagor o eiriau benthyg? Oes ots?▼
▲A yw'r system newydd yn cael ei defnyddio mewn geiriau newydd 'lletchwith' i ddechrau ac yna maent yn cael eu safoni yn nes ymlaen? Neu a fydd system sillafu'r Gymraeg yn dechrau bod yn fwy afreolaidd wrth i ni dderbyn rhagor o eiriau benthyg? Oes ots?
==Ansawdd cyflenwol==
::{| class="wikitable"
|-
Llinell 66 ⟶ 69:
|}
*Mae'r [http://www.traditionalhawaiian.com papur diddorol hwn] yn sôn am yr hyn mae'r awdur yn ei alw'n 'Hawäieg newydd' (Saesneg: ''Neo Hawaiian''), sef tafodiaith Hawäieg newydd dysgwyr nad ydyn nhw'n gyfarwydd â defnydd yr iaith gan siaradwyr brodorol 'Hawäieg traddodiadol'. Mae'n werth ei ddarllen wrth gofio'r fersiynau gwahanol o'r Gymraeg sydd gan, er enghraifft, siaradwr o deulu Cymraeg ei iaith yn y Fro Gymraeg a siaradwr o deulu di-Gymraeg sy'n mynychu ysgol gyfrwng Cymraeg yn Wrecsam neu Gaerdydd. Rhaid ystyried iaith oedolion sydd wedi dysgu'r iaith hefyd. Ydy '''fersiwn newydd o'r iaith''' yn cael ei chreu a fydd, yn y pen draw, yn disodli'r iaith fwy traddodiadol wrth i nifer y dysgwyr gynyddu ac i'r iaith wanhau yn y Fro Gymraeg?▼
Yn ôl y sôn, mae'r system hon yn debyg i'r un a geir yn [http://en.wikipedia.org/wiki/Swedish_phonology#Phonotactics Swedeg cyfoes], a ddisgrifir fel ''nodwedd "ansawdd cyflenwol" brin''.
Ydyn ni'n colli'r patrymau 'traddodiadol' uchod mewn rhannau mwy Seisnig o'r wlad a derbyn patrwm tebycach i'r Saesneg? Hynny yw, ai [tadaɪ, tɔnaɪ, tɔnaɪ] yn iaith disgybl o deulu di-Gymraeg mewn ysgol gyfrwng Gymraeg?
==Cymraeg newydd==
▲
Hoffwn i ysgrifennu am bethau fel hyn ar Wicipedia, ond does dim tystiolaeth "swyddogol" gyda fi! Ydych chi'n gallu fy helpu?
|