Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Helô 'na. Bydda i'n logio i mewn i Wicipedia o bryd i'w gilydd i ysgrifennu rhyw erthygl ar bwnc ieithyddol neu i olygu erthyglau eraill. Byddai'n wych gweld y safle Cymraeg yn datblygu i mewn i ffynhonnell gwybodaeth ddiddorol a defnyddiol fel sydd mewn ieithoedd eraill.
 
Hoffwn i ysgrifennu am bethau tebyg i'r isod: ar Wicipedia, ond does dim tystiolaeth "swyddogol" gyda fi! Ydych chi'n gallu fy helpu?
 
==Sain fewngyrchol==
Mae'r [http://en.wikipedia.org/wiki/Norwegian_phonology#Pulmonic_ingressive erthygl hon] yn dweud bod y gair Norwyeg ''ja'' "ie" yn cael ei ynganu'n fewngyrchol. Oes ymchwil wedi'i wneud ar y sain fewngyrchol mae rhai o siaradwyr y Gogledd yn ei gwneud ar ddiwedd brawddegau weithiau?
 
==Aloffonau==
Pam mae <y> Gymraeg yn cael ei hynganu'n {{IPA|[ə]}} ond pan sonnir am y llythyren ei hyn bydd llawer yn dweud {{IPA|[ɜː]}}? Dylanwad y Saesneg? Ond sut, pam, o ble? Hefyd, a oes rhywun wedi astudio amlder y "tafod tew", sef ynganu {{IPA|/r/}} Gymraeg yn {{IPA|[ʀ~ʁ]}}? Beth am {{IPA|/ɬ/}}// yn {{IPA|[ç]}} a geir mewn rhai geiriau gan rai?
 
==Orgraff==
Ers i Bwyllgor Llên Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru gyhoeddi'u hargymhellion i sefydlu ''Orgraff yr Iaith Gymraeg'' yn 1928, mae'n ddiddorol gweld sut mae'r orgraff wedi trin geiriau benthyg o'r Saesneg. Yn fwy diweddar mae'r Cynulliad, ymhlith eraill, wedi chwarae rhan bwysig wrth safoni'r iaith ysgrifenedig ar gyfer ei gyhoeddiadau.
 
Er enghraifft, yn system Prifysgol Cymru cynrychiolir {{IPA|/iː/}} o flaen {{IPA|/n, l/}} mewn gair unsill gan < i>, e.e. <min, hin, llin>. Mae'r dull hwn yn gweithio'n dda iawn ar y cyfan gyda geiriau brodorol, ond mae geiriau benthyg o'r Saesneg wedi cymryd eu hamser i gael eu mabwysiadu i'r system. Enghraifft o hynny yw {{IPA|[pɪn, piːn]}}, a ysgrifennir yn ddiweddar fel <pin, pîn>, gan ddilyn rheolau symlach na rhai Prifysgol Cymru, sef, fan hyn, llafariad hir â tho bach, a llafariad fer heb un. Mae'r geiriau benthyg hyn wedi'u safoni erbyn hyn yn < pìn pin> fel y byddant yn cyd-fynd â'r rheol uchod.
 
Er hynny, dim ond yn rhannol mae'r rheolau'r Pwyllgor wedi cael eu gorfodi. Rydym yn hen gyfarfwydd â'r gair <bin> yn y Gymraeg, sef rhywbeth i cadw sbwriel ynddo, ond sut mae'i sillafu'n iawn? Nid yw'r gair yn dilyn y rheol uchod, a fyddai'n rhoi < bìn>. Felly erbyn hyn, gall <bin> gynrychioli {{IPA|/bɪn/}} yn ogystal â {{IPA|/biːn/}}, sef <pin> {{IPA|/piːn/}} wedi'i dreiglo'n feddal, ac mae <fin> gynrychioli {{IPA|/vɪn/}} a {{IPA|/viːn/}}, sef treglad meddal ar <min> {{IPA|/miːn/}}.
Mae 'problemau' tebyg i'w cael mewn geiriau fel <cracyr> ac *<albym> {{IPA|/krakər, albəm/}} nid, fel y bydden nhw yn ôl y system draddodiadol, *{{IPA|/krakɨr krakɪr, albɨm albɪm/}}.
 
A yw'r system newydd yn cael ei defnyddio mewn geiriau newydd 'lletchwith' i ddechrau ac yna maent yn cael eu safoni yn nes ymlaen? Neu a fydd system sillafu'r Gymraeg yn dechrau bod yn fwy afreolaidd wrth i ni dderbyn rhagor o eiriau benthyg? Oes ots?
 
==Ansawdd cyflenwol==
Oes ymchwil ar '''hyd sillafau acennog''' mewn geiriau lluosill Cymraeg? Rwy'n dod o'r de ac mae llafariaid lled-hir ynghanol geiriau gyda fi, felly dyma'r hyn sy'n dod allan o fy ngheg i fel arfer (rwy'n credu!):
::{| class="wikitable"
|-
! strwythur
Llinell 31 ⟶ 16:
| ˈVˑV
| eog
| {{IPA|[eˑɔg]}}
|-
| ˈV{b,d,g,v,ð,χ,j,w}V
| ˈVˑCV
| tadau
| {{IPA|[taˑdɛ]}}
|-
| ˈV{m,n,l,r}V
| ˈVˑCV / ˈVCˑV
| tonau / tonnau
| {{IPA|[toˑnɛ / tɔnˑɛ]}}
|-
| ˈV{p,t,k,f,θ,s,ʃ,t͡ʃ,d͡ʒ,ŋ,ɬ}V
| ˈVCˑV
| gallu
| {{IPA|[gaɬˑi]}}
|-
| ˈVC̥C̥V
| ˈVC̥ˑC̥V
| holltu
| {{IPA|[hɔɬˑti]}}
|-
| ˈVC̥C̬V
| ˈVC̥ˑC̬V
| dathlu
| {{IPA|[daθˑli]}}
|-
| ˈVC̬C̥V
| ˈVC̬C̥ˑV
| antur
| {{IPA|[antˑɪr]}}
|-
| ˈVC̬C̬V
| ˈVC̬ˑC̬V
| blinder
| {{IPA|[blɪnˑdɛr]}}
|}
 
Wrth gwrs mae eithriadau (mesen {{IPA|[meˑsɛn]}}) a byddai siaradwyr o rannau eraill o Gymru yn wahanol, e.e. am <tadau, tonau, tonnau>, ai {{IPA|[t̪ad̪̥ˑa, t̪ɔn̪ˑa, t̪ɔn̪ˑa]}} sydd ym Mangor?
 
Yn ôl y sôn, mae'r system hon yn debyg i'r un a geir yn [http://en.wikipedia.org/wiki/Swedish_phonology#Phonotactics Swedeg cyfoes], a ddisgrifir fel ''nodwedd "ansawdd cyflenwol" brin''.
 
Ydyn ni'n colli'r patrymau 'traddodiadol' uchod mewn rhannau mwy Seisnig o'r wlad a derbyn patrwm tebycach i'r Saesneg? Hynny yw, ai {{IPA|[tadaɪ, tɔnaɪ, tɔnaɪ]}} yn iaith disgybl o deulu di-Gymraeg mewn ysgol gyfrwng Gymraeg?
 
==CymraegSeiniau newyddmewngyrchol==
Mae'r [http://en.wikipedia.org/wiki/Norwegian_phonology#Pulmonic_ingressive erthygl hon] yn dweud bod y gair Norwyeg ''ja'' "ie" yn cael ei ynganu'n fewngyrchol. Oes ymchwil wedi'i wneud ar y sain fewngyrchol mae rhai o siaradwyr y Gogledd yn ei gwneud ar ddiwedd brawddegau weithiau?
Mae'r [http://www.traditionalhawaiian.com papur diddorol hwn] yn sôn am yr hyn mae'r awdur yn ei alw'n 'Hawäieg newydd' (Saesneg: ''Neo Hawaiian''), sef tafodiaith Hawäieg newydd dysgwyr nad ydyn nhw'n gyfarwydd â defnydd yr iaith gan siaradwyr brodorol 'Hawäieg traddodiadol'. Mae'n werth ei ddarllen wrth gofio'r fersiynau gwahanol o'r Gymraeg sydd gan, er enghraifft, siaradwr o deulu Cymraeg ei iaith yn y Fro Gymraeg a siaradwr o deulu di-Gymraeg sy'n mynychu ysgol gyfrwng Cymraeg yn Wrecsam neu Gaerdydd. Rhaid ystyried iaith oedolion sydd wedi dysgu'r iaith hefyd. Ydy '''fersiwn newydd o'r iaith''' yn cael ei chreu a fydd, yn y pen draw, yn disodli'r iaith fwy traddodiadol wrth i nifer y dysgwyr gynyddu ac i'r iaith wanhau yn y Fro Gymraeg?
 
==Aloffonau==
Pam mae <y> Gymraeg yn cael ei hynganu'n {{IPA|[ə]}} ond pan sonnir am y llythyren ei hyn bydd llawer yn dweud {{IPA|[ɜː]}}? Dylanwad y Saesneg? Ond sut, pam, o ble? Hefyd, a oes rhywun wedi astudio amlder y "tafod tew", sef ynganu {{IPA|/r/}} Gymraeg yn {{IPA|[ʀ~ʁ]}}? Beth am {{IPA|/ɬ/}}// yn {{IPA|[ç]}} a geir mewn rhai geiriau gan rai?
 
==Orgraff==
Ers i Bwyllgor Llên Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru gyhoeddi'u hargymhellion i sefydlu ''Orgraff yr Iaith Gymraeg'' yn 1928, mae'n ddiddorol gweld sut mae'r orgraff wedi trin geiriau benthyg o'r Saesneg. Yn fwy diweddar mae'r Cynulliad, ymhlith eraill, wedi chwarae rhan bwysig wrth safoni'r iaith ysgrifenedig ar gyfer ei gyhoeddiadau.
 
Er enghraifft, yn system Prifysgol Cymru cynrychiolir {{IPA|/iː/}} o flaen {{IPA|/n, l/}} mewn gair unsill gan < i>, e.e. <min, hin, llin>. Mae'r dull hwn yn gweithio'n dda iawn ar y cyfan gyda geiriau brodorol, ond mae geiriau benthyg o'r Saesneg wedi cymryd eu hamser i gael eu mabwysiadu i'r system. Enghraifft o hynny yw {{IPA|[pɪn, piːn]}}, a ysgrifennir yn ddiweddar fel <pin, pîn>, gan ddilyn rheolau symlach na rhai Prifysgol Cymru, sef, fan hyn, llafariad hir â tho bach, a llafariad fer heb un. Mae'r geiriau benthyg hyn wedi'u safoni erbyn hyn yn < pìn pin> fel y byddant yn cyd-fynd â'r rheol uchod.
 
Er hynny, dim ond yn rhannol mae'r rheolau'r Pwyllgor wedi cael eu gorfodi. Rydym yn hen gyfarfwydd â'r gair <bin> yn y Gymraeg, sef rhywbeth i cadw sbwriel ynddo, ond sut mae'i sillafu'n iawn? Nid yw'r gair yn dilyn y rheol uchod, a fyddai'n rhoi < bìn>. Felly erbyn hyn, gall <bin> gynrychioli {{IPA|/bɪn/}} yn ogystal â {{IPA|/biːn/}}, sef <pin> {{IPA|/piːn/}} wedi'i dreiglo'n feddal, ac mae <fin> gynrychioli {{IPA|/vɪn/}} a {{IPA|/viːn/}}, sef treglad meddal ar <min> {{IPA|/miːn/}}.
Mae 'problemau' tebyg i'w cael mewn geiriau fel <cracyr> ac *<albym> {{IPA|/krakər, albəm/}} nid, fel y bydden nhw yn ôl y system draddodiadol, *{{IPA|/krakɨr krakɪr, albɨm albɪm/}}.
 
A yw'r system newydd yn cael ei defnyddio mewn geiriau newydd 'lletchwith' i ddechrau ac yna maent yn cael eu safoni yn nes ymlaen? Neu a fydd system sillafu'r Gymraeg yn dechrau bod yn fwy afreolaidd wrth i ni dderbyn rhagor o eiriau benthyg? Oes ots?
 
==Cymraeg newydd?==
Hoffwn i ysgrifennu am bethau fel hyn ar Wicipedia, ond does dim tystiolaeth "swyddogol" gyda fi! Ydych chi'n gallu fy helpu?
Mae'r [http://www.traditionalhawaiian.com papur diddorol hwn] yn sôn am yr hyn mae'r awdur yn ei alw'n 'Hawäieg newydd' (Saesneg: ''Neo Hawaiian''), sef tafodiaith Hawäieg newydd dysgwyr nad ydyn nhw'n gyfarwydd â defnydd yr iaith gan siaradwyr brodorol 'Hawäieg traddodiadol'. Mae'n werth ei ddarllen wrth gofio'r fersiynau gwahanol o'r Gymraeg sydd gan, er enghraifft, siaradwr o deulu Cymraeg ei iaith yn y Fro Gymraeg a siaradwr o deulu di-Gymraeg sy'n mynychu ysgol gyfrwng Cymraeg yn Wrecsam neu Gaerdydd. Rhaid ystyried iaith oedolion sydd wedi dysgu'r iaith hefyd. Ydy '''fersiwn newydd o'r iaith''' yn cael ei chreu a fydd, yn y pen draw, yn disodli'r iaith fwy traddodiadol wrth i nifer y dysgwyr gynyddu ac i'r iaith wanhau yn y Fro Gymraeg?
 
==Adborth/cymorth gennych?==
:Fedra i ddim dy helpu - does gen i ddim gwybodaeth yn y pwnc, ond dw i'n gwerthfawrogi dy erthygl yn fawr. Go dda. [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] 23:17, 3 Mehefin 2011 (UTC)