Sgwatio: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Diobaithyn (sgwrs | cyfraniadau)
Diobaithyn (sgwrs | cyfraniadau)
Ychwanegu'r ail baragraff a chyfeiriadau
Llinell 1:
[[Delwedd:CircleN.svg|bawd|Symbol rhyngwladol y sgwatwyr]]
Meddiannu gofod neu adeilad anghyfannedd nad yw'r sgwatiwr yn ei berchen, yn rhentu, nac efo chaniatâd i'w defnyddio yw '''sgwatio'''. Amcangyfrifir i dros biliwn o bobl sgwatio yn byd eang<ref>[http://www.qualitative-research.net/index.php/fqs/article/view/477/1022 Forum: Qualitative Social Research, ''Review: Shadow Cities'']</ref> gan weithiau meddiannu holl ardaloedd, er enghraifft [[slwm|slymiau]] [[Mumbai]] neu fafelas [[Rio de Janeiro]]. Yn y Deyrnas Unedig amcangyfrifir y nifer o sgwatwyr i fod rhwng 15,000 ac 17,000.<ref>[http://www.independent.co.uk/money/spend-save/into-the-housing-wilderness-step-15000-squatters-523995.html The Independent, ''Into the housing wilderness step 15,000 squatters'']</ref>
 
 
Mae'r rhan fwyaf o sgwatwyr yn ei wneud er mwyn cael cartref, ond nid sicrhau annedd yw'r unig cymhelliant. Mi wnaeth [[Cymdeithas yr Iaith]] sgwatio bron holl bentref Rhyd ger [[Porthmadog|Borthmadog]] yn 1975 er mwyn protestio yn erbyn y ffaith mai tŷ haf oedd bron pob adeilad. Dyma enghraifft o sgwatio fel [[gweithred uniongyrchol]]. Mae nifer helaeth o ganolfannau cymdeithasol - mannau cymunedol di-elw, di-hierarchaidd - yn sgwatiau. Mae rhain eto (gan amlaf) yn ymwneud ag athrawiaeth gwleidyddol, fel arfer radical chwith, yn enwedig [[anarchiaeth]]. Enghreifftiau o'r fath sgwatiau cymunedol yng [[Cymru|Nghymru]] yw'r ''Ymbrela Coch a Du'' yng [[Nghaerdydd]] a'r prosiect ''Cwtch'' yn [[Abertawe]].<ref>[http://www.radicalwales.org/2011/11/new-squatted-social-centre-in-cardiff.html Radical Wales, ''New sqquatted social centre in Cardiff'']</ref><ref>[http://www.radicalwales.org/2012/03/community-squatting-comes-to-swansea.html Radical Wales, ''Community squatting comes to Swansea'']</ref>
 
==Gweler hefyd==