George Sholto Gordon Douglas-Pennant, 2il Farwn Penrhyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
llyfr
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
'''George Sholto Gordon Douglas-Pennant''' ([[30 Medi]] [[1836]] - [[10 Mawrth]] [[1907]]) oedd ail [[Barwn Penrhyn|Farwn Penrhyn]] o'r ail greadigaeth. Roedd yn berchen ystad enfawr yng ngogledd-orllewin Cymru, ond mae'n fwyaf adnabyddus fel perchennog [[Chwarel y Penrhyn]] adeg y Streic Fawr rhwng 1900 a 1903.
 
Roedd ei dad wedi bod yn Aelod Seneddol Toriaidd dros [[Sir Gaernarfon]] am chwarter canrif pan wnaed ef yn Farwn Penrhyn yn 1866. Gan ei fod ef yn awr yn symud i [[Tŷ'r Arglwyddi|Dŷ'r Arglwyddi]], y bwriad oedd i'w fab etifeddu ei sedd a'i safle yn y sir. Fodd bynnag yn etholiad 1868, curwyd ef yn annisgwyl gan yr ymgeisydd Rhyddfrydol, [[Love Parry Jones-Parry]] o Fadryn. Er iddo ennill y sedd yn ôl yn 1874, credir fod hyn wedi ei chwerwi yn erbyn y chwarelwyr, oedd a thuedd gref i fod yn Rhyddfrydwyr.
 
Etifeddodd y teitl a'r ystad ar farwolaeth ei dad [[Edward Gordon Douglas-Pennant, Barwn 1af Penrhyn]] yn 1886. Apwyntiodd E.A. Young yn rheolwr Chwarel y Penrhyn yn fuan wedyn, a buan y gwelwyd fod y dull o reoli wedi newid. Dilynwyd streic (neu'n hytrach gloi allan) o unarddeg mis yn 1896-7 gan y Streic Fawr o [[1900]] hyd [[1903]]. Yr oedd y ddwy ochr yn benderfynol o beidio ildio, ond yn y diwedd bu raid i'r chwarelwyr ddychwelyd i'r gwaith ar delerau Penrhyn. Ystyrir yr anghydfod yn ddechrau dirywiad [[diwydiant llechi Cymru]].