Chwarel Dinorwig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
undeb
Llinell 12:
[[Image:AngleseyBarracks.JPG|thumb|240px|left|Barics Mon yn Chwarel Dinorwig. Byddai gweithwyr o [[Ynys Mon]] yn aros yma yn ystod yr wythnos cyn dychwelyd ar y fferi ar brynhawn dydd Sadwrn.]]
 
Bu anghydfod diwydiannol yn [[1874]], yn dilyn ffurfio [[Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru]]. Cafodd tua 2,200 o chwarelwyr eu cloi allan ym mis Mehefin, ond ar ôl pum wythnos cytunodd y rheolwyr i dderbyn bodolaeth yr undeb. Ym mis Hydref [[1885]] bu anghydfod diwydiannol eto yn y chwarel oherwydd fod gwyliau’r chwarelwyr yn cael eu lleihau, ac o ganlyniad clowyd y gweithwyr allan. Fel y chwareli eraill, effeithiwyd ar Dinorwig gan y ddau Ryfel Byd a’r [[Dirwasgiad]], ac yn 1969 caeodd y chwarel, gyda dros 300 o chwarelwyr yn colli eu swyddi.
 
Erbyn hyn mae rhan o Chwarel Dinorwig o fewn [[Parc Gwledig Padarn]], tra mae’r rhan arall yn cael ei ddefnyddio ar gyfer [[Gorsaf Bwer Dinorwig]] sydd o dan yr hen chwarel. Trowyd hen weithfeydd y chwarel yn [[Amgueddfa Llechi Cymru]], gyda arddangosfeydd yn cynnwys hen dai chwarelwyr o [[Tanygrisiau|Danygrisiau]] ger [[Blaenau Ffestiniog]].