Bow Street: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

pentref yng Ngheredigion
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Pentref yng Ngheredigion yw '''Bow Street'''. Mae'n ymestyn yn stribed hirgul o bobtu i lôn yr A487 tua 3 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Aberystwyth. Ar un ad...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 20:06, 16 Mawrth 2007

Pentref yng Ngheredigion yw Bow Street. Mae'n ymestyn yn stribed hirgul o bobtu i lôn yr A487 tua 3 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Aberystwyth. Ar un adeg roedd gan y pentref orsaf ar Reilffordd y Cambrian.

Mae tarddiad yr enw yn ansicr. Yn ôl rhai awdurdodau 'Nantafallen' neu 'Nantyfallen' oedd hen enw'r gymdogaeth, ond 'Bow Street' yw'r unig enw arni heddiw (does dim fersiwn Cymraeg).

'Capel y Garn' yw enw'r hen gapel yn y pentref. Evan Richardson, athro John Elias a Hugh Owen, oedd y sentar cyntaf i bregethu yn Bow Street tua'r flwyddyn 1780. Codwyd y capel cyntaf yn 1793, a chodwyd capel newydd ar y safle yn 1833 am fod y gynulleidfa wedi cynyddu gymaint.

Hanner milltir i'r gogledd o'r pentref mae cymuned wledig Rhyd-y-pennau. Mae lôn yn arwain i lawr i bentref bach Clarach a Bae Clarach ar y arfordir. I'r de mae Comins Coch ac i'r dwyrain Plas Gogerddan. O'r gyffordd tu allan i'r pentref mae ffordd yn rhedeg i fyny i'r bryniau i gyfeiriad Rhaeadr.

Lleolir gwasg enwog 'Y Lolfa' yn Bow Street.

Enwogion