Cymdeithas Ryngwladol y Gweithwyr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 4:
==Hanes==
Cyfarfod o radicaliaid amrywiol yn Neuadd Saint Martin, [[Llundain]], ar y 28ain o Fedi, 1864 oedd genedigaeth y gyfundren. Er i'r cyfarfod cynnwys radicaliaid amrywiol y gyfnod, o [[Cenedlaetholdeb|genedlaetholwyr]] Pwylaidd a [[Cenedlaetholdeb Gwyddelig|Gwyddelig]] a chefnogwyr [[Giuseppe Mazzini|Mazzini]] i sosialwyr Prydeinig ac Almaeneg, erbyn Tachwedd 1864 roedd yn gyfundrefn bur asgell chwith. Ond nid oedd yn athrawiaethol unffurf chwaith, gan adlewyrchu amrywiaeth tueddiadau sosialaidd y cyfnod: [[Siartwyr]],
Yn ystod Cyngres y [[Hague]] yn 1872, holltwyd carfanau y gyfundrefn mewn dau. Diarddelwyd Bakunin a sosialwyr gwrth-wladwriaethol tebyg o'r gyfundrefn gan Marx a'i ddilynwyr. Dyma oedd canlyniad datblygiadau yn syniadau sosialaeth wedi [[Comiwn Paris]] 1871. I Marx, methodd y Comiwn oherwydd ei ddiffyg canoli a thrwy wastraff amser ar ddulliau [democratiaeth|democrataidd]] yn ystod argyfwng, ond i Bakunin ei lwyddiant oedd yr union wrthodiad hyn o'r wladwriaeth canolig. Daeth Bakunin i ddatgan syniadau Marx yn awdurdodol ac yn 1871 wnaeth cynhadledd yn Llundain o'r Cyngor Cyffredinol (a bennwyd gan Marx) datgan yr angen i'r dosbarth gweithiol ffurfio plaid gwleidyddol.<ref>[http://www.marxists.org/archive/marx/works/1871/09/politics-resolution.htm IWMA, ''Resolution of the London Conference on Working Class Political Action''</ref> Yn ogystal, roedd anghytundebau dros strwythur y gyfundrefn (rhai megis Bakunin yn ffafrio un ffederal) a lleoliad y Cyngor Cyffredinol (Marx a'i ddilynwyr yn cefnogi ei adleoliad i [[Efrog Newydd]]). Roedd cystadleuaeth personol eisoes wedi bydoli rhwng y ddau ffigwr blaengar hyn.<ref>[http://www.marxists.org/reference/archive/guillaume/works/bakunin.htm James Guillaume, Michael Bakunin A Biographical Sketch]</ref> I nifer, diffinia'r digwyddiad dechreuad y rhwyg parhaol rhwng [[Marcsiaeth]] ac anarchiaeth.
|