Stranraer: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim ffynonellau
refs
Llinell 3:
Mae '''Stranraer''' ([[Gaeleg]]: ''An t-Sròn Reamhar'' 'Y Trwyn Llydan') yn dref a phorthladd yn sir [[Dumfries a Galloway]] yn ne-orlewin [[Yr Alban]]. O'r porthladd mae gwasanaethau llong fferi yn cysytllu'r dref a [[Belffast]], [[Gogledd Iwerddon]]. Poblogaeth: 10,807 (2001).
 
Mae Stranraer yn gorwedd ar gilfach môr [[Loch Ryan]]. I'r gorllewin mae bryniau isel hir [[Rinnau Galloway]] (''Rinns of Galloway'') yn ei chysgodi. Mae priffyrdd yn cysylltu'r dref â [[Girvan]] ac [[Ayr]] i'r gogledd a [[Newton Stewart]] a [[Dumfries]] i'r dwyrain. O borthladd [[Cairnryan]], ar lan Loch Ryan tua 5 milltir o'r dref, mae gwasanaeth fferi arall yn rhedeg i [[Larne]], Gogledd Iwerddon. Dyma ganolfan weinyddol Gorllewin Galloway. <ref>http://www.bbc.co.uk/news/uk-scotland-south-scotland-15780705</ref>
 
Tua 6 milltir i'r de-ddwyrain o Stranraer ceir pentref [[Dunragit]] a Rhos Dunragit. Credir fod yr enw Dunragit yn tarddu o'r enw 'Din Reged', "Caer Reged", a oedd yn ganolfan bwysig yn nheyrnas [[Rheged]], un o deyrnasoedd [[Brythoniaid|Brythonaidd]] yr [[Hen Ogledd]].
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Trefi Dumfries a Galloway]]